11.5.08

croeso 'lly

ar ôl blwyddyn bron o gyd-flogio ar ein hen hā-bā-do cymraeg annwyl ni, rwy 'di penderfynu bod 'na le yn 'mywyd i flog personol 'fyd, lle ifi bara gyda'r gwaith hir o roi sglein ar 'nghymraeg tra'n trin pynciau sydd o ddiddordeb personol i fi, na fyddai fawr ots yn eu cylch 'da phawb arall (ond pwy a ŵyr? 'falle y byddan nhw'n ddiddorol wedi'r cwbwl). ga' i gyflwyno ichi fy mlog newydd 'lly, chwaer fach i bo-bo cymrâg?

am taw dyma 'mlogiad cyntaf i, 'falle y dylwn i gyflwyno fy hunan yr un pryd - rhywbeth na lwyddon ni erioed i'w wneud ar y cyd-flog rywsut! ocê, 'te, cadwn hyn yn fyr:

  • un o awstralia 'dwy - ac rwy'n gobeithio mynd yn ôl i fyw yna rywbryd (er nad oes 'run clem 'da fi pryd)
  • rwy'n briod
  • rwyf fi a 'mhriod yn llysieuwyr
  • rŷn ni'n byw yn efrog newydd, ond byddwn ni'n symud i oberlin, ohio i fyw cyn bo hir
  • astudio at ddoethuriaeth ym mhrifysgol harvard rwy ar hyn o bryd
  • ac rwy'n dysgu cymraeg
  • wrth gwrs
'na bob peth o bwys, 'mwn i.

rhaid pwysleisio hyn: os bydd hwn yn flog "personol," bydda' i dal i joio darllen sylwadau. nid rhyw brosiect preifat mohono fe, bobol! gwerthfawrogir pob ymateb, waeth pa mor gas, ac rwy'n rhyw leicio cael 'nghywiro 'fyd, os sylwch chi ar unrhyw beth chwith neu rong yn 'nghymraeg i. iawn, ta-ra am y tro - rhagor yn y man.

6 comments:

Emma Reese said...

Llongyfarchiadu ar y blog newydd, Asuka! Mae'n edrych yn wych. Mi ddoi yma bob dydd.

Malone said...

Llongyfarchiadau 'Suk, ar dy faban newydd di! Dwi'n edrych ymlaen at ddatblygiadau'r dyfodol. Hŵre!!! Mae dy flog newydd Cymraeg di wedi cael ei eni o'r diwedd!!

Gwybedyn said...

Hei, 'Suk - chei di ddim gwared â'r pryfed mor rhwydd â hynny! Rŷn ni yma o hyd!

tssstssschhhrzzzz!

asuka said...

diolch ichi i gyd.
hei emma, rwy'n falch iawn fod ti'n leicio'r blog. a bod yn onest, rwy bellach yn meddwl fod e'n edrych braidd fel d'un di. rhaid bod genny' "fel y moroedd" mewn golwg yn is-ymwybodol wrth ddewis y "template." ^_^;
diolch persephone! ydy, mae hi 'di cael ei geni a'i henwi, a cheiff pawb sy 'di gadael sylw ar y neges gyntaf 'ma fod yn dad bedydd/fam fedydd iddi!
hei szczeb, leicicwn i weld pa fath o wefan a wnelai chwilen. heb os rhywbeth dreiniog ag iddo graffter llygad abwydyn!

Emma Reese said...

Asuka, mi naeth Linda a Corndolly ddweud bod nhw'n gweld ar eu sgriniau ond rhai gofynnod ar ôl enwau Cymraeg ein blog ni! Ella mai ond ni a'r ffrindiau ma'n cael gweld y geiriau Japaneg.

Mi nes i ddileu'r enw Japaneg achos bod Corndolly yn meddwl mod i wedi cael ailfeddwl am fy mlog. Trueni mod i wedi bod yn eitha foldon efo fo.

asuka said...

na drueni! mae'n debyg bod rhaid wrth feddalwedd briodol er mwyn i'r cyfrifiadur ddehongli'r symbolau, neu rywbeth. o, wel. gwna' i gadw'r canji a chatacana ar fy mlogiau i am y tro - rwy 'di edrych arnyn nhw (ac ar "fel y moroedd") drwy ddau beiriant gwahanol yma heb broblemau, felly rwy'n gwybod bod 'na rai o leia' sy'n gallu eu darllen nhw. ond diolch iti am y rhybudd!