13.5.08

gŵyl fwyd

wnes i sawl peth neis arall ddy' sadwrn 'fyd! ddales i'r bws i borthmadog yn y pnawn, i fynd i "ŵyl fwyd" tu fas i'r bala gyda rhiannon, ffrind ifi o'r brifysgol. iym iym - ddysges i rywfaint am gyrfe gogledd cymru yna a châl cino o ffein (ffein yn hytrach nag iachus, 'falle: quiche a donyts). diwrnod hollol gymrâg, hollol wych. ro'dd y reid fws yn lyfli hyd yn oed, a'r haul yn tywynnu dros y rhiwie a phopeth, a ches i gloncan yn gymrâg 'da dwy hen fenyw o'dd yn eistedd wrth f'ochor i. elli di ddim gwneud hyn'na yn efrog newydd!

8 comments:

Emma Reese said...

Da iawn ti! Mi nes i ddal y bws i Borthmadog hefyd! Ond nes i ddim byd ond cerdded o gwmpas tipyn ac aros mewn llety i ddal y trên yn y bore wedyn. Ches i ddim cyfle i siarad Cymraeg tra ôn i yna.

asuka said...

gall hi fod yn rhwystredig i ddysgwyr dreio siarad cymraeg 'da phobol ddiarth yng nghymru yn wir - rwyt ti'n gwybod bod 'na ddigon o siaradwyr o gwmpas, ond dwyt ti ddim yn eu ffeindio nhw bob tro.
gobeithio y cei di'r cyfle i weld cymaint o ddramâu cymraeg ag rwyt ti eisiau, gyda llaw. tybed a *oes* 'na berfformiadau ar gael ar dvd - dylai 'na fod!

asuka said...

hei emma, yn dyw hi'n hardd yna rhwng y mynyddoedd a'r môr? galla' i weld pam mae pobol yn dwlu ar wynedd sut gymaint!

Emma Reese said...

Roedd 'na lawer o Gymry Cymraeg oedd yn glên iawn siarad Cymraeg â fi, fel Dogfael a'i ffrindiau er engraifft, ond roedd yn well gan y rhan fwya ohonyn nhw siarad Saesneg â dysgwyr. Mae'n ormod o waith ceisio dallt eu Cymraeg annealladwy, mae'n rhaid.

Ella nân nhw dvd Siwan cyn bo hir, gobeithio.

Dw i'n cytuno. Roedd y golygfeidd yn fendigedig er bod hi'n bwrw'n gyson. Mi nes i weld cymaint o ddefaid gwlyb.

asuka said...

wyt ti'n gwybod ffordd dda o ffeindio mas am DVDiau cymraeg? rwy'n gwybod nad oes llawer ar gael, ond sa' i'n gwybod sut mae dysgu beth sy'n cael ei ryddhau. does 'na ddim DVDiau ar gwales.com, oes e?

Emma Reese said...

Oes ond mae'r rhan fwya ohonyn nhw i blant ac dydy nhw ddim yn gweithio yn America oni bai bod gen ti beiriant "region free."

Nac ydw, i'r cwestiwn cynta.

asuka said...

wrth fod ein chwaraeydd DVD ni fel 'sai'n tynnu at ddiwedd ei oes, rŷn ni'n meddwl am brynu un "multi-region" - ond sa' i'n gwybod lot amdanyn nhw eto.

Gwybedyn said...

S4C sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o DVDau Cymraeg - y ffilmiau hir, ta beth. Ond mae'n anodd ffeindio ma's beth sy' ar gael (roedd tudalen gyda nhw ar eu gwefan slawer dydd ond mae honno wedi mynd bellach, hyd y gwela' i). Rwy' wedi bod yn chwilio catalogau'r siopau ar-lein, ond yn ddi-fudd. Mae rhai pethau ar gael yno, ond fedri di ddim dweud bod y dewis yn eang.