12.5.08

nos sadwrn 'da siwan

bûm yn theatr gwynedd nos sadwrn diwethaf yn gwylio cynhyrchiad o siwan gan saunders lewis, a gallaf ddweud yn wir mai un o'r nosweithiau gorau a gefais yn y theatr erioed ydoedd. ni phrynais raglen oblegid yr wyf yn rhy siep o lawer, ac nid oes gennyf gopi o destun y ddrama yn y tŷ. ni chredaf felly fod modd imi ysgrifennu gwir "adolygiad" o'r cynhyrchiad, ond fe allaf rannu ychydig o'm profiad o hyd, a hynny y ceisiaf ei wneud yma.

yr oedd holl ddyluniad y peth yn drawiadol iawn. megis y tro diwethaf yr euthum i ddrama yn theatr gwynedd, yr oedd y llwyfan mewn tywyllwch llwyr tra cerddem i mewn fel na ellid gweld dim o'r set (ni wn a ddefnyddir llen yn theatr gwynedd byth, ond os felly nis gwelais i). pan godwyd y goleuadau, gellid gweld bod sgrîn ar draws y llwyfan o un ochr i'r llall, ar ongl fel y creodd driongl i'r cyfan gymryd lle ynddo. pa fodd yr oeddid i ddehongli'r fath symbol? y rhan fwyaf o'r amser, goleuwyd y sgrîn fel ag i weithredu megis drych, a gellid gweld ynddi gefnau'r actorion, ac wynebau'r gynulleidfa hyd yn oed. ar dro yr oedd hi'n hanner-ddrych, ac unwaith fe ymddangosodd rhywbeth pwysig yn y lle y tu hwnt iddi...

newidiodd ystyr y set hefyd. yn yr olygfa yn y carchar pryd y disgrifiai alis grogi gwilym y gallai hi ei weld er mwyn siwan a oedd yn bell o'r ffenestr, yr oedd y sgrîn yn llawn ystyr wrth-blatonaidd a pharodd feddwl am rym geiriau sgript hefyd ac am rym delweddau ar y llwyfan i greu realiti gredadwy. weithiau eto yr oedd yr adlewyrchiadau ar y sgrîn yn debyg i ledrithion siwan a gwilym, a hwythau'n dewis profi rhywbeth y gwyddent nad oedd yn bosibl. a dyna oedd y gynulleidfa yn y drych gyda hwy, yn ewyllysio iddynt ei wneud!

ond er bod y set yn ddiddorol, yr actorion a oedd yn gyfrifol am lwyddiant y cynhyrchiad mewn gwirionedd. os oedd y set yn ddyfeisgar, yr oedd y perfformiadau'n hollol onest, yn llawn teimlad ac urddas y ddau. hoffwn weld cynhyrchiadau eraill o'r un ddrama yn y dyfodol, ond ni chredaf y gwelaf un gwell gan mor wych oedd yr actorion hyn.

un peth yn unig na fwynheais, a chweryl sydd gennyf â'r ddrama ei hun yw hyn. fe gasâf yr olygfa olaf. y mae'n geidwadol ei hysbryd, y mae'n twtio adeiladwaith y ddrama cymaint, ac y mae gormod o llywelyn ynddi, sydd yn gymeriad hollol annioddefol, polonius a chanddo goron fel petai. gwell fyddai rhoi terfyn ar y cyfan cyn yr olygfa honno a gadael i'r gynulleidfa grafu eu pennau.

hei, do'ch chi'm yn dishgwl ifi gynnal yr iaith ffansi 'na ôl-ddy-wei, o'ch chi? ^_^ ... o, daro - nes i ddim!

4 comments:

Emma Reese said...

Yeei, dw i wedi bod yn disgwyl hwn! Diolch am dy adlogiad. Naeth Alis ddisgrifio crogi Gwilym yn fanwl fel ysgrifennir yn y llyfr?

asuka said...

do, do - mae'r olygfa 'na mor drist on'd yw hi? y golygfeydd rhwng siwan ac alis yw fy hoff ddarnau i yn y ddrama, ac roedd yr actorion yn eu chwarae nhw'n wych yn y cynhyrchiad 'ma.
sori am gymryd cymaint o amser dros y blogiad - penderfynais i brofi rhywbeth newydd gyda'r iaith yn ogystal â rhannu'r newyddion!

Emma Reese said...

Dw i isio gweld hi hefyd! Gobeithio medra i gael cip ar y we rywbryd.

Gwybedyn said...

Llais newydd i Asuka. Diddorol a da!

Diolch am yr adolygiad; mae bod mor bell o Gymru'n gallu bod yn rhwystredig pan fydd pethau cystal yn cael eu colli.

Rydw i wrth fy modd â'r syniad o sgrîn y tu ôl i'r llwyfan sy'n gweithio fel drych ar alw, a'r posibiliadau hynny yr amlygaist ti ynghylch adlewyrchu'r gynulleidfa.

Paham triongl, felly...? Hmmm. Rhyw fath o gyfeiriad tywyll at weithred prism y dychymyg, mecanwaith canfyddiaeth? Cyfeirad yn ôl i Bythagoras? Neu amlygiad o'r ffordd y bydd cynhyrchiadau dramatig yn torri byd realiti ar ongl, a'r gradd o gynrychiolaeth a geir ar y llwyfan yn sbectrwm o ffuglen lawn i realiti (fel y bydd trwch triongl yn mynd o'r gwaelod llawn i fod yn ddim yn y gornel)?

Neu gyfeiriad cynnil at driongl cariad; neu at y trydydd sy'n ymwthio i fywyd y gwrthrych-goddrych?

Rwy'n mynd bant i wrando ar y cynhyrchiad radio (Ioan Gruffudd, John Ogwen, Bethan Hughes, Maureen Rhys) - eithaf gwahanol, mae'n siwr!

Mae trafodaeth wedi bod ar faes-e, hefyd:

http://www.maes-e.com/viewtopic.php?f=16&p=363570