15.5.08

rhybudd!

neges fer i roi rhybudd rhag ofn bod rhywun yn bwriadu gwario arian i weld y ffilm brydeinig newydd doomsday: peidiwch! arhoswch i'r peth ddod ar y teledu! es i i'w gweld hi 'da chriw o 'nghyd-letywyr yn y sinema yn llandudno neithiwr trwy 'mod i'n rhyw leicio ffilm arswyd dda - er nad dyna'r cyfan y bydda' i'n ei wylio, wrth gwrs. ^^;

wel, nid ffilm dda o unrhyw genre oedd hon. anodd mynegi pa mor lletchwith oedd y sgript (felly dreia' i ddim), ond yr hyn oedd wir yn drawiadol oedd pa mor anwreiddiol oedd hi, fel 'sai rhywun 'di cymysgu elfennau ar hap o escape from new york, mad max 2, mad max 3, army of darkness, 28 days later - ac rwy'n siwr bod 'na lot o ddylanwadau eraill y byddai gwir connoisseur wedi'u hadnabod. a gweud y gwir, mae'n debyg taw chwarae sbotio-'r-dylanwad fyddai'r ffordd orau o joio doomsday!

(ond neis treulio noson gyda'r cyd-letywyr - pobol glên.)

4 comments:

Anonymous said...

Hehe! Nes i ei gweld hi ar alluc.org (cyn imi ddarganfod watch-movies.net sydd yn well o lawer ar gyfer ffilmiau newydd). Dw'i'n cytuno efo dy ddadansoddiad o'r ffilm. Yn wir, dw'i ddim yn gwybod sut i siarad am Doomsday heb ddefnyddio'r gair 'shit'. :)

asuka said...

gair digon addas. rown i'n disgwyl rhywbeth gwell gan y cyfarwyddwr: doedd "the descent" ddim yn ffilm *wych*, ond roedd 'na lawer mwy o ddiddordeb yn ei chylch.

Rhys Wynne said...

Dwi heb ei weld, ond o beth dwi'n ddeall, ffilm bropoganda gan y llywodraeth yw hi, ac nid ffilm i'w mwynhau ;-)

asuka said...

diolch, rhys. ond sa' i'n siwr ydw i'n credu'r dehongliad 'na - mae'r ffilm yn anhrefnus iawn o bropaganda!
hei, mae 'na le i ffilm arswyd wleidyddol yn y gymraeg, on'd oes? gwnelwn i dalu arian i weld hynny yn y sinema.