4.6.08

bishi

fore dy gwener w i'n gadel cymru - a chymint i neud cyn hyn'na fel bo fi'n mynd mas o 'ngho!

5 comments:

Gwybedyn said...

ymhle cest ti'r ail go' i fynd ma's ohono?! ;)

mwynha'r partia (mae'n siŵr y bydd rhyw ychydig)!

asuka said...

pwynt da. ddylwn i ddim becso cymaint, 'lly!
partis? sut ro't ti'n gwybod?

Emma Reese said...

Nest ti fwynhau byw ym Mangor? Gobeithio cei di siwrnau dda'n ôl.

asuka said...

do, emma, do, do, do, do, do, do, do.
sori am beidio ag ateb ddiwrnodau 'nôl - rown i ar y ffordd o fangor i lundain i efrog newydd, ac rwy gartref yn harlem o'r diwedd. mae'n hyfryd gweld 'mhriod i eto ar ôl yr holl amser hwn! ond yr un pryd, do, mi ges i amser da yng nghymru ac rwy'n falch iawn ifi fanteisio ar y cyfle i fynd.
aeth y siwnai adref yn iawn. cysgais i ar y llawr yn heathrow - nad yw byth yn gyfforddus - ond y bore wedyn daeth 'mrawd iau i draw o rydychen (lle mae e 'di bod yn astudio) jest i gael brecwast gyda fi yn y maes awyr, oedd yn hyfryd. mor neis oedd sgwrsio ag e a ninnau ddim yn cael gweld ein gilydd yn aml iawn.

Emma Reese said...

Croeso yn ôl i America. Falch o wybod bod popeth yn iawn. Mi edrycha i ymlaen at ddarllen dy bost eto.