19.6.08

cymanfa ganu?

ffordd y galla' i sgrifennu blogiad sy'n cyffwrdd â byd adloniant heb gynnwys un llun yn rhagor o kate a gin, sêr britain's got talent? sori, alla' i ddim. ^^

ond karaoke anime yw testun y darn bach hwn mewn gwirionedd. gwnaeth ordovicius sôn am pa mor hwylus yw sut weithgareddau ac rwy'n cytuno'n llwyr. 'dewch inni ganu rhywbeth gyda'n gilydd felly! agorwn y ffenestri 'na cyn lleted ag yr elont - rhannwn ein perfformiad â'r stryd i gyd! rwy'n rhoi isod yn destun enghraifft lyfli lle y mae cymeriadau o'r rhaglen mahoromatic yn ein harwain ni yn y karaoke, fel y byddan nhw'n gwneud ar ôl pob pennod - gellwch chi gopio eu dawns nhw hyd yn oed! rwy'n dwlu ar y dawns.

sori am gynnwys y gân, gyda llaw - mae'r rhaglen mahoromatic bach yn "racy" a gweud y gwir... ond ei thueddiad hi i fynd dros ben llestri (ac i "hunanbarodi") sy'n ei gwneud yn enghraifft mor dda o lot o bethau cŵl ynghylch anime. oes rhywun arall sy'n hoff ohoni tybed?

(cei di ddilyn y geiriau japaneg neu'r rhai spaeneg!)

No comments: