24.6.08

sa' i'n bita'n ffrindie (wel, 'mond tameidie bach IAWN)

prynais i becyn o greision pwy ddiwrnod i fynd 'da'r byrgars llysieuol ro'n ni i'w cael i swper (miam, miam), a digwiiiiiddodd ifi eu hagor nhw o flaen llaw a phrofi un wrth olchi'r letys ac ati ('sdim byd yn bod ar hyn'na nac oes?).

hmmm... [meddwn i], 'na flas diddorol... [crynsh, crynsh]... un hynod o gyfarwydd 'fyd, ond un rown i fel 'swn i heb ei nabod ers achau... [dyna fi'n troi'r pecyn rownd i weld rhestr y cynhwysiadau]... tybed yn beth ro'n nhw 'di cael eu ffrio...?

a dyna oedd yr ateb mewn print mân ar yr ochor: lard. smo ti'n disgwyl hyn'na nac wyt? wel, 'dw i ddim.

rwy'n siwr y bydd lard yn gwneud crisben yn eithriadol o ffeind - ac mae ddi wastad yn ofnadwy genny' wastraffu bwyd - ond a finnau heb gael cig ers deng mlynedd erbyn hyn mae'r syniad o fwyta lard bellach yn gwneud ifi deimlo'n wirioneddol o sâl. i mewn i'r bin â nhw 'lly, er bod hi'n ddrwg iawn genny' ei wneud. (6_6)

5 comments:

Chris Cope said...

Bwahaha. Cyffesa: roeddet ti'n dwlu ar y creision 'na, onid oeddet ti?

Gwybedyn said...

Yma yng Ngwlad Pwyl rwy' 'di dod yn hen gyfarwydd â gweld prydau yn cynnwys bacwn, porc neu gigoedd eraill ar y fwydlen o dan 'Wegeterianskie'. Dydy rhai cigoedd (neu rai ffyrdd o'u cynnwys nhw) ddim yn cyfrif - mond rhyw 'background noise' ydyn nhw, mae'n debyg!

asuka said...

^_^
chris, ro'n nhw'n ocê (nid achos mae'n gas 'da fi blas cig nad wy'n ei fwyta fe cofia!), ond yn hollol weird 'fyd. mater o arfer, wedwn i, 'set ti'n fawr o gigfwytawr hyd yn oed. erioed 'di gweld creision cyn wynned â'r rhain - dim mymryn o liw arnynt...
szczeb, rwy'n leicio'r syniad 'na o gig "background." ife fel cig cwantwm mae e tybed, yn cael ei greu ac yn diflannu trwy'r amser? neu rhyw signal main, cigol sydd ar ôl o'r big bang?

Gwybedyn said...

neu'r 'big banger' falle!

:D

asuka said...

^o^