22.7.08

ŵŵŵŵ capten!

so, digwyddodd inni fod yn barnes & noble brynhawn sadwrn, wrth y lincoln centre - a phan weda' i inni "ddigwydd" fod yna, yr hyn rwy'n feddwl cofia yw inni fod yna'n fwriadol ac o bwrpas. roedd 'mhriod i 'di gweld arwydd mewn rhyw gylchrawn yn hysbysebu sêl enfawr yn y siop - "hundreds of dvds from $9.99" a bod yn fanwl gywir!

pwy yn eich plith a allasai gadw draw? wel, nid y ni, beth bynnag - gwych, medden ni, cyfle i stoc-yp ar dvds yn un o siopau mawr y ddinas fawr cyn mentro off i gefn gwlad ohio mis nesa'. bant â ni i'r lincoln center felly a dyna fi drwy ddrysau barnes & noble a lawr stâr i'w hadran dvds mewn chwinciad a wishlist hyd 'mraich yn fy meddwl i: yoidore tenshi (drunken angel) kurosawa... ffilmiau agnès varda efallai... unrhyw beth gan ozu a fai ganddyn nhw...

hmm... sa' i'n gwybod a oes chwaeth dda 'da fi, ond rwy'n casglu taw chwaeth ddrud yw hi. oedden, roedd y dvds hynny 'da nhw, ond nid y rheiny oedd yn y sêl. a beth oedd yn y sêl? beth oedd y cannoedd o ffilmiau? cannoedd o gopïau o'r un deuddeg ffilm wedwn i - amlwg yn eu plith oedd tomen o gopïau o captain ron rwy 'di dodi llun o'i glawr uchod er eich boddhad. ^^

sa' i'n gwybod wyt ti'n gyfarwydd â'r capten. rhaid cyfaddef nad own i ddim. tra 'mod i'n leicio kurt russell, galla' i weud jest drwy weld y clawr nad wy moyn gwylio captain ron. rwy moyn peidio â'i gweld hi - mae'n bosibl y byddwn i'n talu mwy na $9.99 i gael peidio â'i gweld hi. nawr dyma'r rhan sbŵci (ac os wyt ti'n darllen hyn lliw nos well iti stopio fan hyn a dod 'nôl yn y bore). ar ôl cael ein siomi yn barnes & noble ro'n ni'n crwydro'r siopau eraill ychydig a bu inni alw i mewn i borders books yn columbus circle. a beth oedd i'w weld yn eu hadran dvds nhw ond... ugeiniau o gopïau o captain ron!

hei, beth am un llun yn rhagor o'r hen gapten annwyl? mi wn y byddai'n dda 'da fi gael un. fwala 'lly.

3 comments:

Chris Cope said...

Wrth gwrs, fy mhrif amcan bellach yw gorfodi ti gwylio Captain Ron. Bydd Ohio yn gymaint o siom i chi ddau -- mae ganddyn nhw Barnes & Noble a Borders hefyd.

Emma Reese said...

Nes ti brynu'r ugeiniau i gyd felly?

asuka said...

naddo, emma, gwnes i eu cuddio nhw tu 'nôl i gopïau o miss congeniality 2 fel na fydd chris yn gallu eu ffeindio nhw byth!

ie, os wy am bwysleisio nodweddion arbennig efrog newydd, rwy'n sylweddoli nad barnes & noble a borders mo'r enghreifftiau gorau! ^^ mae 'na lot o bethau arbennig yma rŷn ni'n treio manteisio arnynt cyn gadael - y siop anime yn greenwich village, strand books, y siopau dillad i gyd... leiciwn i fynd i amgueddfeydd hefyd.

(ac wrth gwrs bod cleveland yn ddinas wych, rwy'n deall, ac mae'n debyg y byddwn ni'n gallu ymweld â chicago o'n cartref newydd o bryd i'w gilydd...)