23.7.08

pssst! t'awydd prynu cwrcyn?

sa' i moyn i'r blog hwn droi'n oriel o luniau o shinji i gyd, ond... on'd yw e'n annwyl?

rown i'n tynnu lluniau o gelfi fan hyn rŷn ni'n gobeithio eu gwerthu ar y rhyngrwyd cyn gadael, gan gynnwys y stôl 'ma. elai shinji ddim oddi arni, felly yn pendraw lan ag ef ar y rhyngrwyd gyda'r stôl. sa' i'n siwr a ddeniff y llun 'ma brynwyr ai peidio. ond rwyf fi'n ei leicio e. ^^

6 comments:

Emma Reese said...

Dw i'n synnu fod ti ddim yn ei alw fo'n Nekobasu.

asuka said...

byddai hyn'na syniad da - ond fod e mor grwn i'r golwg yn y llun 'na fel na waeth inni jest ei alw e'n "totoro"! neu "moon" efallai, fel y cwrcyn yn y ffilm hyfryd mimi-o sumaseba.

asuka said...

in parenthesis dysgwyr:
fel na waeth inni…
'sdim clem 'da fi a ydy hyn yn gymraeg cywir. weithiau bydda' i'n sgrifennu rhywbeth yn glou ac wedyn… ^^'

Linda said...

Ciwt iawn Asuka ! Yn debyg iawn i'n cathod ni ....bob tro mae rhywbeth yn digwydd , mae'n rhaid iddynt hwythau hefyd gymeryd rhan!
Hwyl .....>^..^<

Emma Reese said...

Ymdangosodd un o gathod Linda ar sgrîn tra oedden ni'n cael sgwrs ddoe!

asuka said...

^^
sa' i'n synnu. ys dywedodd linda, maen nhw'n leicio bob tro wybod be' sy'n mynd 'mlaen! unrhyw beth newydd, neu os yw pethau 'di cael eu symud...
caethon ni ddau ffon symudol drwy'r post ddoe, a threuliodd shinji oriau yn eistedd yn y bocs gwag. jest i'w dsiecio fe mas.