14.7.08

rŷn ni'n barod


sef parod at y gemau olympaidd, a ninnau 'di prynu'r mygiau 'ma ddoe a masgotiaid swyddogol arnyn nhw. 'mhriod i a ddewisodd y mwg ar y chwith (yingying yn dangos ei hunan ar y ceffyl pren) a f'un i sydd ar y dde (nini wrthi'n chwarae pêl feddal). trwy nad oes gennyn ni ddim ffordd o wylio teledu yn y tŷ, rŷn ni'n bwriadu mynd i ryw sports bar bob gyda'r nos i weld uchafbwyntiau ar y sgrinau mawr fan'na - tybed fyddai ots 'da nhw 'sen ni'n mynd â'n mygiau ni ein hunain? "a gawn ni'n diodydd yn y rhain os gwelwch yn dda?"

7 comments:

Zoe said...

"a gawn ni'n diodydd yn y rhain os gwelwch yn dda?"

Haha, syniad gwych!

Hmm, dw i'n synnu os wyt ti'n gwilio'r gemau trwy'r rhyngrwyd (heb talu gormod o arian wrth gwrs). Dw i eisiau gweld rhai o'r gemau, ond sgen i ddim teledu a dw i ddim yn hoffi sports bars. Mi fydda i'n ymchwilio rwan...

asuka said...

mae'n hollol bosib y bydd modd iti eu gwylio nhw ar y we. ddim i ni, gwaetha'r modd, trwy fod ein cysylltiad rhyngrwyd yma'n rhy araf a doji o lawer i wneud unrhyw beth mor ffansi â gwylio fideo drosto!
beth? smo ti'n leicio sports bars? a tithau'n gymaint o ffan o indycar! ond rhannu dy sylwadau call ar y pwnc yna a chelet ti ddiodydd am ddim rwy'n siwr.

asuka said...

hei, pa mor gyffredin yw hi yn y wlad hon tybed methu â gwylio teledu yn y tŷ fel ti a ni? mwy cyffredin nag oedd hi mae'n debyg o achos y rhyngrwyd.

Zoe said...

Mi edryches i, a mae NBC yn darlledu'r gemau ar y we. Hwre!

Dydy IndyCar ddim yn mor boblogaidd i ddarlledu'r rasys mewn sports bar. Heblaw yr Indianapolis 500 effallai, ond dw i'n byw yn agos at yr Indianapolis Speedway y dw i'n gallu mynd mewn person. Mi es i ym mis Mai eleni, a mi fydda i mynd yn ol y flwydden nesa.

asuka said...

bydd rhaid iti ddechrau ymgyrch iddo fe gael ei gynnwys yng ngemau olympaidd 2012. ^^

Emma Reese said...

Mae'r mwgiau'n dwt iawn. Be wyt ti'n mynd i yfed efo nhw?

Dw i'n siwr bydda i a'r teulu'n gwylio rhai gemau ond ddim popeth. Un o'r rhaglenni prin dan ni'n gwilio ar y teledu ydy gemau olympaidd.

asuka said...

te a choffi sy 'di bod ynddyn nhw hyd yn hyn ond mewn sports bar... pwy a ŵyr? national bohemian efallai os bydd sut beth 'da nhw! (hoff gwrw lleol i'r hen baltimore annwyl.)
rŷn ni'n dau'n dwlu ar y gemau olympaidd 'fyd. yn baltimore ro'n ni'n eu gwylio nhw y tro diwetha inni gael y cyfle - gemau sydney 2000. gwnaethon ni wahodd ein ffrindiau rownd i wylio fel y gallen ni eu clywed nhw'n gweud pa mor bert oedd sydney, ein cartref ni. roedd hi'n gyffrous iawn gweld popeth ro'n ni'n eu nabod, a oedd mor bell i ffwrdd yna ar y sgrîn.
mynna wych o amser yn iowa, emma!!!