22.8.08

asuka drws nesa'


wel, dyma ni 'di cyrraedd ein tŷ newydd ac wedi dechrau ymgartrefi o'r diwedd - sori am beidio ag ysgrifennu 'slawer dydd, ond a ninnau'n pacio/datbacio, symud, dechrau dod i nabod y dre' 'ma, a glanhau, glanhau, glanhau, rwy heb gael fawr o gyfle yn ddiweddar i eistedd i lawr o flaen cyfrifiadur!

so sut le yw e? wel, fe'i gelwais yn "dre'" uchod, a thref yw e. smo ni'n bell bell o ddinas cleveland fan hyn, felly down i'm yn siwr beth i'w ddisgwyl yn union, ond ar ôl cael cip o gwmpas y lle a theithio rhwng ein cartref ni a'r ddinas galla' i ddatgan yn swyddogol nad rhan o'r maestrefi mo hwn. rŷn ni'n byw yng nghefn gwlad bendant, mewn small town - ac mewn college town 'fyd.

rhywbeth hollol tu fas i'm profiad yw'r college town (does yr un yn awstralia) ond fel pawb arall, rwy 'di gweld digon o ffilmiau o america i adnabod small town america pan y'i gwelaf - a rhyfedd iawn yw ei gweld hi yn y cnawd! mae 'na fanc oddi ar y brif stryd yma o'r enw third federal savings and loans - sy'n 'nharo i'n americanaidd iawn o enw. 'set ti'n gweud wrthyf fi taw dyna enw'r banc yn it's a wonderful life, byddwn i'n ei gredu e. a beth yw enw'r brif stryd ond main street wrth gwrs! rwy'n cael yr argraff bod un o bob peth yn y dre'. un siop lyfrau (sy'n eitha' mawr o achos y coleg), un general store sydd fel 'sai'n gwerthu popeth bwytadwy, gan gynnwys losins cartref (ac mae'n nhw'n gwerthu te 'fyd, sy'n bwysig i ni'r awstraliaid). llyfrgell gyhoeddus neis rwy 'di ymaelodi â hi'n barod.

yn sydyn bach, mae genny' gymaint o bethau i flogio yn eu cylch - y dref, y ffermydd o'i chwmpas, y llyfrgelloedd, cynlluniau ar gyfer y dyfodol (e.e. ffeindio mas a fyddai gan unrhyw un yn y dre' ddiddordeb mewn dysgu cymraeg, manteisio ar y coleg er mwyn dysgu almaeneg a japaneg), ein tŷ ni. mae'r tŷ yn lyfli, gyda llaw. dim ysbrydion cas eto, er 'mod i'n dal i gael hyd i goesau o wallt hir, du wrth lanhau sy'n peri ifi feddwl o'r ffilmiau ju-on. iaics.

ac ambell i makkuro-kurosuke, wedwn i, o'r herwydd dyma fi'n glanhau, glanhau, glanhau!

5 comments:

Emma Reese said...

Ti'n dal i fyw Asuka! Mi ddechreues i feddwl bod 'na rywbeth yn bod.

Mae dy ardal di'n swnio'n glyd. Basa hi'n rhyfeddol taset ti'n cael ffeindio siaradwr Cymraeg neu ddau yno.

Pob llwyddiant ar lanhau dy dyˆ newydd.

asuka said...

wel, os oes 'na bobl a leiciai ddysgu ychydig o gymraeg, rown i'n meddwl y gallwn i gynnal gwers unwaith yr wythnos neu rywbeth tebyg. mae'n bosibl bod 'na ddysgwyr posibl yn yr ardal, 'sdim gwersi o gwbwl ar gael hyd y gwela' i, ac er nad y fi mo'r tiwtor delfrydol byddwn i'n well na dim byd! (wel, mae'n hollol bosibl nad yw hyn'na'n wir, ond gallwn i roi peth cymorth i ddechreuwyr llwyr eniwê...)

Gwybedyn said...

ha-ha, am wyleiddra!

hei - cofia wenu a chwerthin i gael gwared â'r ysbrydion drwg (a'r gwallt efallai, os wyt ti'n lwcus!) :)

asuka said...

ie, gwyleidddra, dyna'r gair. mae e'n 'nisgrifio fi i'r dim!

asuka said...

a phaid â becso, szczeb, rŷn ni'n chwerthin nerth ein hysgyfaint - bydd yr ysbrydion 'di mynd cyn bo hir mae'n siwr.