29.8.08

hei, 'co hwn!

torth o fara a wnes i neithiwr - croeso iti brofi tamaid, 'rhen ffrind!

rwy'n teimlo ychydig fel cymeriad diane keaton yn baby boom, a ddywed wrth ei ferch a nhwthau'n symud o efrog newydd i gefn gwlad vermont:
"it's going to be a whole new life for us... i'm going to learn to relax and sleep late, bake apple pies, get into quilts... we're going to be just like the farmer in the dell."

* ac rwy'n dal i ffaelu ffeindio'r camdreiglad y soniodd szczeb amdano yn y post blaenorol (oni bai fod e am ifi sgrifennu "a fois" yn lle "bois"!). wyt ti'n gwybod beth sy gan szczeb mewn golwg, f'annwyl ddarllennydd?

4 comments:

Gwybedyn said...

a, nawr te - treiglo'r cyfarchol, fechgyn - dyna syniad braf! :)

byddai'r fath dreigladau'n hollol gartrefol mewn cegin lle clywir oglau bara mor wych... a mêl lleol... a chlonc y dosbarth Cymraeg!

Emma Reese said...

Ti wnaeth hon? Mae'n edrych yn reit dda. Lle mae'r rysait?

Chris Cope said...

Mae gan y briodferch ifanc a fi rhyw beiriant sy'n gwneud bara. Peth gorau erioed ydyw.

asuka said...

ie, emma, y fi a wnaeth e. ac mi roedd e'n llwyddiannus iawn - diolch i ansawdd y cynhwysiadau, rwy'n credu. a chan america sut draddodiad o bobi cartref, mae 'na gynhyrchion gwych ar gael yma ar silffoedd pob archfarchnad. (gallwn i bostio'r rysait fan hyn - ond bydd 'na lot o dermau pobi y bydd rhaid ifi eu tsiecio yn y geiriadur!)
chris, rwy'n clywed pethau da ynghylch peiriannau bara. 'mond rhyw ragfarn luddite sy'n peri ifi wneud y peth â llaw! beth am iti bostio llun ohonoch chi'n joio sandwij o'ch bara hawdd, llwyddiannus chi?!
szczeb, mae 'na groeso i bawb a fynno alw draw a chael sleisen o gymraeg ffeind y midwest ar setl ein cegin ni! mi wna' i osod lle iti.