7.9.08

(^_^) \_/7o(^_^)

er bod te 'da nhw yn ein general store wych ni, gibson's, bagiau yw'r rhan fwyaf ohono, ac mae e bach yn ddrud at hyn'na. dyma felly ein parsel cyntaf ni o de wedi'i archebu dros y we. te du sri lanca, te du assam a keemun, ychydig o oolong a chymysgedd o'r enw "irish breakfast tea" (a fydd fel arfer yn cynnwys assam gyda rhyw de arall sy'n llai cryf) - dros bedwar pwys o de yna yn aros am ei yfed. doedd e ddim yn rhad, ond dyw te ffansi byth sa' i'n credu.

iawn - y cyfan sy eisiau nawr yw tegell newydd! roedd tegell hyfryd 'da ni am flynyddoedd, un a brynon ni 'nôl yn baltimore ym 1999. mi dorrodd e wythnos diwetha' (y ddolen a ddaeth bant o'r diwedd), so prynon ni un newydd yn y siop five and dime fan hyn - sy ddim cweit yn gwneud y tro rywsut... er fod e i fod i chwibanu, dyw e ddim; ar y llaw arall mae e yn gollwng dŵr, yr hyn rwy bron yn sicr na ddylai tegell ei wneud! rhaid talu mwy na "dime" i gael un da mae'n debyg. ^^

5 comments:

Emma Reese said...

Assam a Keemun ydy fy ffefryn hefyd. Rôn i'n arfer archebu te gan Freed yn CA. Mae eu te yn ardderchog ac yn gymharol rhad. Ond dw i'n prynu Twinnings Irish Breakfast yn Wal-Mart bellach.... Dw i'n dal i ddefnyddio tegell gaethnon ni'n anrheg briodas yn Japan. Un da iawn ydy o.

asuka said...

assam a keemun - miam miam. 'sdim byd fel aroglau bricyllaidd pecyn o assam pan yw newydd ei agor. a diolch am roi gwybod am freed's - mae eu prisiau fel 'sen nhw'n rhesymol. (o wendell's y gwnaethon ni archebu ein te ni tro 'ma - te neis iawn.)

gwych bod yr un tegell yn dal 'da chithau, emma! mae andwyo tegellau'n gwneud ifi feddwl bob tro o fy mam-gu, garddwraig fawr, a fyddai'n llosgi'r tegell trwy'r amser drwy ei adael e ar y ffwrn wrth fynd i lawr i waelod yr ardd i weithio. aeth dad-cu'n arbenigwr mewn gwneud pethau mas o degellau di-waelod. dechreuodd ambell i goron mewn dramâu ysgolion eu plant off fel tegell dros y blynyddoedd.

Emma Reese said...

Wendell's! Posh!

O na, ti wedi rhoi i mi chwant am Assam.

Roedd dy daid yn greadigol!

Gwybedyn said...

dw i wastad wedi mwynhau Twinings hefyd. Assam ac Earl Grey oedd fy ffefryn slawer dydd (2 ran Assam, 1 rhan E.G.), neu Darjeeling ac E.G. os am rywbeth ychydig yn fwy melo.

stori hyfryd am dy fam-gu!

trwy gyd-ddigwyddiad, prynon ni degell newydd heddiw, ond rhaid oedd cael y rhataf yn y siop a dydyn ni ddim yn gwybod sut beth yw ef eto - un 'stove-top' o wydr sy'n (neu sydd i fod i) chwibanu.

asuka said...

sa' i erioed 'di leicio te'r iarll llwyd, rhaid gweud. bydda' i'n cael disgled o de jasmin o bryd i'w gilydd, ond dyna fyddai'r unig de wedi'i flasu sy'n dda 'da fi fel rheol.

(tegell o wydr sy'n mynd ar y tân? gobeithio na throiff pethau mas fel yn y fideo iŵ-tiŵb 'na a halaist ti ata' i, szczeb, o'r balwn dŵr yn ffrwydro!)