4.9.08

wrth nyrsio 'nhroed i...

llwyddais i dorri 'nhroed chwith ddoe so bore 'ma bues i yn y feddygfa yn cael triniaeth. roedd rhaid i fi seiclo adref wedyn dan wisgo'r sblint esgid enfawr ar 'nhroed!

dywedodd y meddyg wrthyf taw gwylio lot o My-HiME yw'r peth gorau ar gyfer troed 'di ei thorri.

a siocled.

rwy'n ceisio canlyn ei hargymelliadau'n ofalus er mwyn gwella cyn gynted ag y bo modd.

7 comments:

Nic said...

Dw i wedi clywed bod hufen iâ yn gallu helpu mewn achosion fel hyn, hefyd.

Brysia wella.

asuka said...

diolch, nic! rown i brod yn sicr bod 'na rywbeth arall rown i di ei anghofio. dylwn i dreio gwneud rhestr o'r pethau i gyd y soniodd y meddyg amdanynt. anime, siocled, hufen iâ (ie!), ...?

Emma Reese said...

pice ar y maen

asuka said...

nawr smo hyn'na'n neis iawn, emma! o ble rwy'n mynd i gael pice ar y maen fan hyn?

Emma Reese said...

Gwna hi dy hun.
http://www.netcooks.com/recipes/Cakes/Pice..Ar.Y.Maen.(Welsh.Cakes).html

Mae gen ti ddawn crasu.

Gwybedyn said...

sdim byd fel pice'n ffres o'r mân, ac maen nhw'n cadw am oesoedd, hefyd. Gen i ffrind yn y Ffindir sy'n mynd â llond cwdaid gydag ef ar deithiau-llusgo-pabell-dros-y-twndra yng ngogledd y wlad.

Byt di dy bice, 'Suk ac mi fyddi dithe'n llamu drwy eira gwlad y Sami dy hun cyn pen dim o amser!

asuka said...

mae'n ychydig o "catsh twenti-tŵ" 'te.
unwaith y bydd pice ar y maen 'da fi, bydda' i'n llamu dros y twndra ac ati. ond tan hyn'na mi ddeil mynd lan i'r siop i moyn y pethau i wneud y pice yn her. ^^
(diolch iti am y ddolen, emma!)