13.11.08

breuddwydion anodd!

ces i freuddwyd neithiwr lle rown i'n siarad cymraeg. nid taw dyma'r tro cyntaf ifi gael breuddwyd fel 'na, wrth gwrs - rwy'n cael breuddwydion tebyg yn eitha' amal ers blynyddau nawr - ond timod be? nhw yw'r breuddwydion anhawsaf y gelli di eu cael, mwn i! bob tro ifi ddihuno ar ôl y fath freuddwyd bydda' i mor flinedig fel 'mod i am fynd yn ôl i gysgu'n syth.

mae'n gwneud synnwyr wrth gwrs - os taw gyda chryn drafferth rwyt ti'n dy fynegi dy hunan drwy'r gymraeg yn y dydd, dyna'r profiad y bydd breuddwyd yn ei seilio ei hunan arno 'fyd. - a dyna fi'n credu erioed fod gallu breuddwydio mewn ail iaith yn rhyw arwydd bod dyn 'di "cyrradd" o ran dysgu!? ... ha!

5 comments:

Emma Reese said...

Be nest ti ddweud yn dy freuddwyd Cymraeg? â phwy ô't ti'n siarad? Wyt ti'n cofio?

Dw i'n cytuno. Rhaid bod yn rhugl braidd mewn iaith chi'n dysgu cyn i chi gael breuddwydion ynddi hi.

Dim ond ddwywaith ces i freuddwydion Cymraeg ac wnes i ddim dweud llawer.

Anonymous said...

Mewn gwirionedd nid ydym yn defnyddio unrhyw iaith wrth freuddwydio, yn ôl yr arbenigwyr a welais i ar y teledu rhyw dro.

Emma Reese said...

Maen nhw'n anghywir felly! Dw i'n cofio'n glir mod i'n dweud yn fy mreuddwydion, "Rhaid i ni siarad Cymraeg." ac "Be ddigwyddod?" Rôn i mor falch ar ôl deffro mod i'n cofio'r treiglad!

asuka said...

sa' i'n cofio beth oedd yn mynd ymlaen yn y freuddwyd 'ma gwaetha'r modd, ond roedd e'n eitha' eglur wrth ddihuno.

rwy'n cytuno 'da emma reese yn llwyr. os bydd arbenigwr yn honni nad oes dim iaith mewn breuddwydion, rhaid i'w theori esbonio hefyd ffordd mae modd ifi gofio tro ar ôl tro sgyrsiau rwy 'di eu cael pan yn cysgu, gan gynnwys brawddegau penodol, a (fel emma) meddyliau penodol am yr iaith rwyn i'n ei defnyddio yn y freuddwyd!

Gwybedyn said...

ie - rwyf wedi deffro gan gofio'n glir talpiau o sgyrsiau (a mwy na thalpiau) mewn sawl iaith. Weithiau, sy'n od ond yn ddealladwy, byddaf yn creu geiriau nad ydynt yn bodoli mewn unrhyw iaith ac yn siwr bod iddynt ryw ystyr allweddol goruwchnaturiol (cyfrinair i'r nefoedd, fel petai). Y diwrnod o'r blaen bues i'n breuddwydio geiriau Twrceg a dyma'r gair "acik" yn cymryd arno'r "aura" yna. Gofyn i 'nghariad wedyn beth yw ystyr y gair, a chael deall taw'r arddodiad 'am' yw ef!