21.5.09

co rein

co be ges i ddoe - orennau falensia organig oedd 'da nhw yn yr archfarchnad. sdim fawr o ots da fi am organigion - o'r hyn rwy'n ei ddeall smo pethau organig bob tro yn well i ti nac i'r amgylchedd, ond mae lot o ots 'da fi am orennau falensia - sy'n well ym mhob ffordd na'r rhai botwm bola am a wn i, hyd yn oed er taw y nhw sydd i'w gweld yn y siopau o gwmpas fan hyn fel rheol.

7 comments:

Emma Reese said...

Dw i heb sylwi bod nhw'n blasu'n wahanol.

Gwybedyn said...

rwy' 'di clywed pobl eraill yn difrio bwydydd organig hefyd, ond erioed wedi clywed y dadleuon (y tro diwethaf, Slavoj Zizek oedd ef, yn awgrymu taw rhyw fath o esgus gwneud y peth iawn yw prynu bwydydd organig, yn gwmws fel esgus bod yfed coffi yn Starbucks yn gwneud lles i blant yn Guatamala, neu lle bynnag). Rhyfedd gen i, heb wybod mwy - on'd yw *peidio* a^ defnyddio cemegau yn well na'u defnyddio? (Rwy'n deall ac yn cytuno gyda'r farn ar Starbucks, felly rwy'n hollol barod i dderbyn y posibilrwydd taw SZ sy'n gywir).

asuka said...

wel, wi'n credu bod yn well 'da fi falensias. ond dylwn i dreio byta'r ddau yn y tywyllwch i wneud yn siwr!

wi'n cytuno, szczeb - dyw hi ddim yn gyfrinach bod 'na ormod o gemegau o gwmpas, yn enwedig yn y dŵr, a byddai'n dda gwneud rhywbeth am y broblem. ond yn hanesyddol mae 'na broblemau gyda'r term "organig" am nad yw'r gair trwy'r amser wedi golygu llawer, ac weithiau dyw e ddim wedi golygu rhywbeth da hyd yn oed. pan own i'n byw yn awstralia roedd 'na label "organic grade A" roedd cynnyrch yn gallu ei ennill, a beth oedd ystyr y radd oedd nad oedd cemegau erioed wedi cael eu hiwiso ar y fferm y daeth y cynnyrch ohoni. so doedd dim ffordd ennil y radd "organig A" drwy iwsio llai o gemegau ar dy fferm di. na - roedd rhaid clirio tir gan dorri coed a chreu fferm newydd. so roedd a wnelo'r label â phurdeb personol rîli yn hytrach na beth oedd yn dda i'r amgylchedd er enghraifft. ac mae 'na gymaint o broblemau eraill yn awstralia sydd lawn mor bwysig â chemegau, fel diffyg dŵr, y dull o drin anifeiliaid yn y ffermydd mawr (fel ym mhobman).

sa i'n credu bod y gair "organig" yn rhoi lot o wybodaeth iti am effaith dy ddewisiadau di fel cwsmer.

Gwybedyn said...

aha. diolch iti am dy esboniad. o'n i heb feddwl am yr ochr yna. mae'n drueni, on'd yw ef, fod pethau fel hyn yn gallu taflu amheuaeth dros y rhai sy'n gwneud ymdrech wirioneddol dros yr amgylchedd, a rhoi esgus i ni feddwl nad oes dim pwynt trio becso go iawn.

Gwybedyn said...

diawch, a nawr co'r penawdau'n awgrymu nad oes 'na unrhyw fantais iddyn nhw! :(

Gwybedyn said...

hey 'suk - sut ti'n cadw'r dyddiau hyn? pa hwyl aeafol sydd yno?

Blewyn said...

Sut orennau sydd ar gael yn Siapan tybed ? Afalay mawrion Fuji a dwrfelonnau sgwar....mae'n debyg fod ganddyn nhw rhyw fath o oren sbesial hefyd ?