ar ran y tramorwyr i gyd sy ddim yn gallu gwylio eu s4c dros y we mwyach...
nadolig llawen,
asuka.
22.12.08
annwyl s4c
9.12.08
siawt-awts!
7.12.08
bwyd figanaidd
mae'r blog 'ma'n cysgu ers rhai wythnosau mae arna' i ofon (fel osaka-chan o azumanga daioh ar y chwith) - nid nad oes dim 'da fi i'w rannu, wrth gwrs. diffyg amser, 'mond diffyg amser yw'r hanes. gobeithiaf sgrifennu ychydig ar ein teithiau diweddar ni i detroit ac efrog newydd cyn bo hir, ond yn y cyfamser dyma ichi ddolen at wefan cwpwl o gogyddion gwych o figaniaid: the post punk kitchen.
dwy yn efrog newydd ŷn nhw sy 'di cyhoeddi sawl llyfr da iawn. pan own i'n tyfu, bois, roedd bwyd figanaidd fel 'sai'n ofnadwy bob amser, yn enwedig pob math o fwyd parti figanaidd fel teisennau a phhhhwdinau. ond mae pob peth rŷn ni 'di ei dreio mas o lyfrau'r rhain jest yn lyfli. dylísh. mae'r ryseitiau ar eu gwefan nhw yn gymysg braidd (dyna'r we ichi!) - ond does modd rhoi dolen at y llyfrau eu hunain, oes e? wel, dim eto.
13.11.08
breuddwydion anodd!
ces i freuddwyd neithiwr lle rown i'n siarad cymraeg. nid taw dyma'r tro cyntaf ifi gael breuddwyd fel 'na, wrth gwrs - rwy'n cael breuddwydion tebyg yn eitha' amal ers blynyddau nawr - ond timod be? nhw yw'r breuddwydion anhawsaf y gelli di eu cael, mwn i! bob tro ifi ddihuno ar ôl y fath freuddwyd bydda' i mor flinedig fel 'mod i am fynd yn ôl i gysgu'n syth.
mae'n gwneud synnwyr wrth gwrs - os taw gyda chryn drafferth rwyt ti'n dy fynegi dy hunan drwy'r gymraeg yn y dydd, dyna'r profiad y bydd breuddwyd yn ei seilio ei hunan arno 'fyd. - a dyna fi'n credu erioed fod gallu breuddwydio mewn ail iaith yn rhyw arwydd bod dyn 'di "cyrradd" o ran dysgu!? ... ha!
9.11.08
cyrri a kare kano
heno o'r diwedd mae cwpwl o'n ffrindiau newydd ni yn oberlin (bois yn adran 'mhriod) yn galw draw am noson anime. fi sy'n gwneud y bwyd (cyrri indiaidd gyda bara nan); diolch i anno (evangelion) am yr adloniant - ei gyfres kare kano ("his and her circumstances").
wel, y disg cyntaf ohoni o leiaf, ac wedyn falle'r trydydd - smo'r ail ddisg ar gael ar netflix o gwbwl. rhyfedd.
