21.5.09

co rein

co be ges i ddoe - orennau falensia organig oedd 'da nhw yn yr archfarchnad. sdim fawr o ots da fi am organigion - o'r hyn rwy'n ei ddeall smo pethau organig bob tro yn well i ti nac i'r amgylchedd, ond mae lot o ots 'da fi am orennau falensia - sy'n well ym mhob ffordd na'r rhai botwm bola am a wn i, hyd yn oed er taw y nhw sydd i'w gweld yn y siopau o gwmpas fan hyn fel rheol.

20.5.09

ar ddihun

waeth pa mor hir y bydda i 'di bod wrthi'n dysgu, mae'r cwestiynau'n para - cwestiynau digon sylfaenol hefyd - rhai sy'n 'nghadw i ar ddihun liw nos pan ddylwn i fod yn breuddwydio 'mreuddwydion cymraeg anodd. cwestiynau fel: "ffordd mae cyfieithu'r cysyllteiriau saesneg "when" a "though" yn y gymraeg."

nawr wi'n gwybod be ti'n feddwl: mae asuka ni 'di cael clatsien i'r pen, ac wedi colli ei niwrons pan ac er. gad ifi egluro beth yn rhagor. nid y defnydd arferol ar "when" a "though" fel cysyllteiriau isradd sy 'da fi mewn golwg yma, ond defnydd arall lle mae'r geiriau 'ma fel 'sen nhw'n gysyllteiriau cydradd.
h.y., nid
• When I was sitting typing, Shinji bit me.
ond
• I was sitting there typing, when up jumped Shinji and bit my arm.

ac nid
• Though he gets plenty of attention he always wants more.
ond
• He gets plenty of attention - though he always wants more!

falle nad yr iaith "isradd/cydradd" mo'r un briodol yma, ond mae 'na wahaniaeth beth bynnag rwyt ti am ei alw e. yn yr ail "frawddeg when" uwchlaw, mae "when" yn gyfwerth ag "a dyna" neu "ac wedyn", neu jest "a". yn yr ail "frawddeg though" ar y llaw arall, "ond" mae "though" yn gyfleu mewn gwirionedd, ynteu? so eniwê dyma fi'n gofyn i fy hunan ydy pan ac er mor hapus yn gwneud y ddwy swydd yn y gymraeg sydd i "when" a "though" yn saesneg? fel arall, os taw "a" yw'r ystyr, fyddai'n well iwsio "a" yn hytrach na "pan", ac os "ond", "ond" yn lle "er"?

(ffaelu ffeindio'r ateb yn 'ngramadegau i - 'na syrpréis iti. ond alla i'm peidio meddwl na ddylwn i fod yn edrych mewn gramadeg o gwbwl a'r cwestiwn yn un mor sylfaenol. swn i'n talu rhagor o sylw wrth ddarllen, fyddai dim rhaid wrth sut adnoddau eilradd mae'n debyg...)
( ̄へ ̄)

15.5.09

ponyo! ponyo! ponyo!

cael cyfle i weld ponyo (崖の上のポニョ) a wnes i'n ddiweddar, y ffilm newydd sbon gan miyazaki hayao. anodd gweud faint o ffefryn bydd y ffilm 'ma'n mynd yn y dyfodol ar ôl ei gweld hi unwaith yn unig, ond ar y foment sa i'n siwr ydw i di joio'r un o ffilmiau miyazaki ers kiki's delivery service (魔女の宅急便, 1989) yn fwy na hon.

lot o bethe gwych am y ffilm 'ma, ond dyma ichi un am y tro: y cymeriad lisa, mam i'r prif gymeriad. rhyfedd pa mor amal mewn storïau ffantasi i blant y bydd mam yn farw ynteu yn marw, yn dost iawn, neu absennol am ryw reswm arall. ond nid fel'na yn ponyo. yma mae'r fam yn ifanc ac yn cŵl, yn fywiog ac yn gyffrous, yng nghanol pob dim. dyna hi uwchlaw. on'd yw hi'n edrych yn alluog ac yn hwylus?

os yw ffilm miyazaki totoro yn dangos inni ddelfryd o dad ifanc, un sy'n gallu gofalu am eu plant yn gyfrifol wrth adael y lle iddyn nhw dyfu, mae ponyo yn gwneud yr un peth i famau! hwrê am mam!

14.5.09

bicis!

sdim byd fel bwydydd cartre i ddwyn gwlad ei eni i gof un sy'n byw yn bell oddi cartre, oes e? ac o ofyn i alltud o awstraliad beth mae hi (neu e) yn golli fwyaf o ran bwyd, posib iawn y clywi di'n ateb y gair ar ben y post hwn, sef... "bicis!"

bisgis awstralia! milk arrowroots, scotch fingers, milk coffees, morning coffees, honey jumbles, gingernuts, spicy fruit rolls, currant luncheons... enwau dewinol pob un ohonyn nhw, ac yn amal iawn ers symud i u.d.a. rwyf fi a 'mhriod wedi eistedd wrth y ford yn llafarganu'r swyneiriau hyn wrth ein gilydd mewn hanner breuddwyd a'r dŵr yn llifo'n rhydd o'n dannedd...

ond sdim rhaid wrth sut ddefodau mwyach - newydd gael gwerth dros gan doler o fisgis awstraliaidd drwy'r post, llond bocs y buon ni ei archebu ar y we, ac mae'n iced vovos ac orange slices i gyd yn nhŷ asuka ar hyn o bryd!

ga i fanteisio ar y sefyllfa i gyflwyno ichi'r monte carlo, ffefryn i fi, ffefryn i 'mhriod, ffefryn i tithau fydd wi'n siwr! gyda'u dwy fisgïen gnau coco a'r haenen o hufen a jam yn y canol, mae'r monte carlo yn frenin coronog ar fyd bisgedi, yn nhŷb i - ac ardderchog gyda phaned o de. iawn, mae'n amser te beth bynnag. jest gad ifi roi'r tegell ar y ffwrn ar gyfer potaid o de ceylon, cawn ni rannu cwpwl o'r danteithion yma 'da'n gilydd. cei di weld!

12.5.09

HOMING LASER!!!

wel, wel, mae'r hen flog annwyl yn dal i fod wedi'r cwbwl! down i'm yn siwr fyddai blogger wedi ei ddileu neu rywbeth a finnau heb sgrifennu'r un gair arno ers cyn y dolig... mae'r coed ginco yn sgwâr y dre 'di gadael i'w llwyth drycsawrus ddisgyn i'r ddaear, mae'r eira wedi dod a mynd, mae cennin pedr y gwanwyn nhwthau drosodd yn yr ardd, a dyma fi nôl o'r diwedd.

pam? wel, mae angen awch sydd ar 'nghymrâg i cymaint ag eriôd, mae'n siwr - na, mwy nag eriôd, mae'n debyg. at hynny mae 'na lwyth o anime wi moyn sgrifennu arnyn nhw! anime fel... gunbuster! (トツプをねらえ! cyf. anno, 1988). dyna noriko o gunbuster! uwchlaw - y hi sy'n gyfrifol am y bloeddiad ffantastig o ddisynnwyr yn nheitl y post. amdani, noriko! darn ar hon'na'n dod yn fuan. (^_-)

sori am ddiflannu gyda llaw, os oes ots 'da neb. ond cath rhywun yn y brifysgol "syniadau" bot hi'n hen bryd ifi ddysgu peth almaeneg, so bues i'n gwneud hyn'na am sbel. ac wedyn roedd hi'n amser crynsh ar gyfer traethawd ph.d. 'mhriod i so treuliais i amser hir yn helpu gyda hyn'na, gan wirio pob atalnod a throednodynnod. ac wedyn...
hei - wi yma nawr ocê!

wrth sôn am y cennin pedr ac ati - am wanwyn! eriôd 'di byw yng nghefn gwlad o'r blaen. eriôd 'di meddwl y byddwn i'n byw yng nghefn gwlad, a gweud y gwir, ond waw. ac nawr bod yr eira 'di mynd o ddifri a'n gardd ni'n tyfu'n wyllt, mae 'na gwningen fach frown sy'n ymweld 'da ni bob gyda'r nos i bori tu nôl i'r tŷ - wi'n disgwyl arni drwy'r ffenest wrth deipio'r union eiriau hyn. wir iti.

sdim clem 'da fi beth mae ddi wrthi'n fyta yna. dant y llew o bosib. neu wair. mae fy chwaer i sophie yn honni y bydd cwningod yn byta unrhyw beth. buon nhw'n edrych ar ôl bwni dosbarth fy nith saith oed dros nos pe ddwrnod, a bytodd hon'na fflip-fflop gŵr sophie a thamed o ddrws y cefen...

... mynte sophie.