15.5.08

ar goll yn y goedwig

yng nghoedwig gramadeg y gymraeg gan peter wynn thomas a bod yn fanwl gywir. ar goll, heb glem ffordd mae mynd yn f'ôl. ble mae totoro, pan oes ei angen? cwestiwn penodol rwy'n pendroni drosto yma, un rwy'n ei drafod 'da ffrindiau ers cryn amser - ac nid achos mae rhyw oleuni newydd 'di cael ei dawlu arno rwy i'n sgrifennu hyn (bydd yn rhaid ifi ddysgu rhagor am y gymraeg ac am ramadeg yn gyffedinol cyn y digwyddiff hynny, mae'n debyg). jest er mwyn rhannu 'mhenbleth mae arna' i ofon!

so dyma 'mhroblem i. ar dudalen 426 o'i lyfr e, mae thomas yn rhoi'r enghraifft ganlynol:

  • "Gwelais Gwerful yn tylino toes."
mae e'n mynd rhagddo wedyn i alw "yn tylino toes" yn ddibeniad i'r gwrthrych (a "Gwerful" yn wrthrych i'r frawddeg). dyma nad wy'n ei ddeall: ffordd y gelli di gyfri' "yn tylino toes" yn ddibeniad i'r wrthrych? o droi i dudalennau 411-12, lle y ceir llwyth o enghreifftiau o ddibeniadau i wrthrychau ar ôl gwahanol ferfau, fe weli di'r enghraifft hon:
  • "Gwelai hynny'n fygythiad."
mae'n hollol resymol genny' alw "yn fygythiad" yn ddibeniad i'r gwrthrych (sef "hynny") fan hyn. ond mor wahanol yw'r frawddeg hon i'r enghraifft gynta' fel na alla' i ddeall ffordd mae modd defnyddio'r un term yn y ddau achos.

pan fydd i'r ferf gweld yr ystyr "barnu", fel yn yr ail frawddeg uchod, mae'r elfen ar ôl y gwrthrych yn ddibeniad cystrawennol, rhywbeth sy'n angenrheidiol i gwpla strwythur y frawddeg, y byddai rhywbeth ar goll hebddo. yn yr enghraifft gynta' ar y llaw arall, 'sdim defnydd arbennig ar y ferf "gwelais", ac mae "yn tylino toes" fel petai'n elfen ddewisol o ran y gystrawen: "fe'i gwelais", ac wedyn "fe'i gwelais yn tylino toes". felly rwy'n ffaelu gweld bod "yn tylino toes" yn ddibeniad yn yr ystyr honno.

ac on'd oes 'na wahaniaeth arall, semanteg? ar sail yr ail frawddeg uchod, gelli di lunio brawddeg newydd: "Bygythiad oedd hynny." fel mae gwrthrych y frawddeg wreiddiol wedi mynd yn oddrych, felly yn y frawddeg newydd mae'r dibeniad i'r gwrthrych wedi troi'n ddibeniad i'r goddrych. ond elli di ddim llunio brawddeg gyfatebol ar gyfer ein henghraifft gyntaf ni: mae'r syniad taw "Tylino toes oedd Gwerful" [nid "Tylino toes yr oedd Gwerful"] yn hollol swrrealaidd! ^o^

sa' i'n gweld ffordd y gall dadansoddiad thomas weithio. ond wrth gwrs nad oes clem 'da fi beth arall i'w wneud ynghylch yr "yn tylino toes" - dim ond problemau rwy'n eu gweld yma, ar grwydr ymhell oddi cartre'. totoro! dere i egluro ffordd rwy 'di camddeall syniad thomas - byddwn i'n fodlon derbyn hyn'na!

('na chi - wedes i down i'm yn gyllu addo bydde'r blog 'ma'n ddiddorol bob tro! ond mae'r llun yn wych. mae'n werth clicio arno i'w weld ar ei wir faint.)

9 comments:

Nic said...

Ti'n iawn, mae'r llun yn wych; dw i wedi ei ychanegu at fy nghronfa pennau desg.

Ynglŷn â chynnwys y blogiad...

Uh-wuh?

Heb ddarllen y llyfr 'na ers sbel, ond dw i'n cofio ei brynu pan o'n i wrth yn y dosbarth Wlpan. Torrwyd nghalon fach wan. A'i yn ôl ato fe un dydd, siwr o fod.

Gareth King, FTW!

asuka said...

wrth gwrs 'mod i'n gwerthfawrogi gareth king 'fyd! treuliais i bob nos gyda'i lyfrau ar ôl y gwaith am flynyddoedd pan own i'n dechrau dysgu - a gwnes i joio pob munud.

Gwybedyn said...

Gareth King!!!

aAAarghhh!

(ond mae'r wasg o leiaf yn addo y caiff y llyfr ei ypdêtio erbyn y golygiad nesaf - y pethau diwylliannol a hanesyddol sy' dan sylw 'da nhw, ac nid yr orgraff, gwaetha'r modd [yn ad-argraffiad 2002 does dim sôn am y Cynulliad nac am adnoddau ar y we], na'r nonsens ynghylch CW vs LW).

A dod yn ôl at gynnyrch y blog - tybed a oes 'na rywun all ofyn i PWT ei hunan alw heibio?

_Gramadeg y Gymraeg_ ôl-ddy-wei!!!

asuka said...

byddwn i lawn mor fodlon cael ymateb PWT i'r llun ag i'm cwestiwn. ^^
o ran adnoddau dysgu gareth king: calma, calma, 'rhen chwilen. a phaid ag anghofio anadlu.

Gwybedyn said...

trosiad yw'r llun - y teithiwr dewr yn ceisio ffeindio'i ffordd drwy goedwig Cymraeg cywir (fel yr awgrymaist ti), a miloedd o ysbrydion drwg dilynwyr Gareth King yn ceisio'i ddenu oddi ar ffordd unionsyth gyfiawn y gwirionedd gramadegol!

tchrzchrzszch!!!!

;)

asuka said...

smacen galed sy eisiau arnat ti!

Gwybedyn said...

'smack' o ryw fath sydd angen i alluogi dyn i ddelio gyda 'Colloquial Welsh'!

asuka said...

pryd y byddi di'n cael dy flog dy hunan i fi ei fflamio/drolio e? (^_^)

Gwybedyn said...

m(_ _)m

sori, 'suk - bihafiaf o hyn ymlaen - anhofio wnes i am eiliad lle 'rôn i.