26.5.08

edrych ymlaen

rwy'n mynd i eisteddfod yr urdd rywbryd wythnos 'ma.
wir. yn. edrych. ym. laen.
bues i'n gwylio ychydig ohoni ar y teledu heddi: y plant ysgol gynradd yn adrodd cerddi, ac yn chwarae'r delyn a'r piano. ro'n nhw i gyd mor dalentog ac mor ddel. wir ichi - 'mond ychwanegu ci yn dawnsio, a byddai hi lawn cystal â britain's got talent.

5 comments:

Gwybedyn said...

Cei amser gwych, Asuka, ac yng nghyffiniau Eisteddfod yr Urdd, y tebyg yw y gweli di gŵn defaid yn gweithio defaid, yn hytrach na bod hurtiaid gor-ddinesig yn ŵŵ-an ac yn ââ-an "isn't he clever" ac "a natural performer!" Hen druan o'r coli yna.

Eto i gyd, mae'n gwneud iti deimlo mwy fyth dros y cŵn truan yna sy'n cael eu cadw mewn tai mewn trefi heb y cyfle i o leiaf ddefnyddio rhywfaint o'u dealltwriaeth cynhenid a'u hegni dibendraw.

asuka said...

a finnau'n aelod o'r hurtiaid gor-ddinesig, diddorol genny' glywed dy bersbectif di. sa' i'n deall pam byddet ti'n teimlo piti o gwbl dros gi coli sy'n cael treulio oriau beunydd yn hyfforddi gyda pherchennog deallus, waeth p'un ai dawnsio 'ta gweithio bydd e.
(pan gyrhaedda' i adre, rwy'n mynd i dreio dysgu dawnsio i'n cath ni.)

Emma Reese said...

Gobeithio cei di amser gwych. Mi edrycha i ymlaen at glywed dy hanes di yno.

asuka said...

addawa' i sgrifennu rhywfaint arno!

Gwybedyn said...

jest yn teimlo fod na'r fath beth â pharch tuag at anifeiliaid yn bod. Neu dylai fod, o leiaf. Fel y dywedais i - nid y peth gwaethaf yn y byd y gelli di'i wneud yw hynny a wnaethpwyd i'r ci defaid yma - gwaeth byth yw cadw anifail mewn caets (ac mae sawl math o gaets yn bodoli). Ond. Ond. Ond. Mae cŵn defaid yn gallu gwneud pethau llawer mwy deallus na cherdded 'sha nôl. Math o warth yw treio gwneud i anifeiliaid ymddwyn fel pobl, fel 'se na ddim ffordd inni werthfawrogi eu naturau fel arall. Ond ie - mae 'na bethau llawer gwaeth yn digwyd i rai.