26.5.08

rhesymau dros leicio anime (i)

dechreuais i sgrifennu hyn o dan y teitl "pam rwy'n leicio anime," nes ifi sylweddoli pa mor ddiffiniol roedd e'n swnio - wrth gwrs 'mod i'n joio gwahanol animes am wahanol resymau, ac anodd yw cyffredinoli yn eu cylch. ond wedi gweud hynny, dyma ichi ddau reswm dros leicio rhai enghreifftiau o anime japanaidd!

1) tueddiad i fod yn hollgynhwysfawr
mae'r genres yn bwysig iawn yn anime - mae 'na raglenni i'r crotennod bach, a rhai i ddynion ifainc, comedïau, storïau caru, cyfresi "robotiaid anferth," ac ati. ond o fewn y terfynnau 'na, mae i rai o'r pethau rwy'n eu leicio gryn duedd i dreio ffitio pob peth posibl i mewn, mewn ffordd sy'n rhyw adlewyrchu cymysgwch bywyd ei hunan. ffars ac athroniaeth, golygfeydd anweddus a thyner - ac yn yr enghreifftiau 'ma bydd y fath gymysgedd yn creu ystyr newydd i'w elfennau. fyddwn i ddim am wylio mecha pur, na phorn 'chwaith, ond galla' i gydnabod bod i bethau "cŵl" a "glas" y ddau le mewn portread cyflawn o'r byd dynol.

2) defnydd ar newidiadau o ran arddull i greu ystyr

rwy'n dwlu ar ffordd y bydd anime (fel manga) yn newid arddull, gan gynnwys dyluniad y cymeriadau, i gyfleu ystyron fel teimladau eithafol, symudiad rhwng lefelau realiti (rhwng dychymyg cymeriad, cof a'r presennol, dyweder), neu newid o ran pa gymeriad mae'r gynulleidfa yn "gweld" y cyfan drwy ei lygaid.

gweler y trailer yma ar gyfer y gyfres mahoromatic. rhaid cyfadde' nad mahoromatic mo'r rhaglen orau erioed. mae ddi braidd yn sili, a gweud y gwir (ac mae ei hail gyfres hi'n amheus iawn!), ond o leia' dylai'r trailer egluro'r hyn sy genny' mewn golwg yn eitha' da. 'sai fe'n hysbysebu unrhyw beth ond anime, byddet ti'n gofyn iti dy hunan ffordd y gallai pob peth yna fod yn yr un rhaglen!

3 comments:

Rhys Wynne said...

Os ti'n mynd i steddfod yr Urdd diwedd yr wythnos/penwythnos olaf, galwa draw i babell Prifysgol Caerdydd ac edrych am ddysgwraig bach byr ifanc o'r enw Irene. Bydd yn ffricio hi allan!

Mae hi'n ffrind i mi ac mae'r brifysgol wedi gofyn iddi fynd lan i'r gogledd fel esiampl o ddysgwraig.

asuka said...

mi wna' i! (er mod i'n treio peidio â ffrîco neb mas fel rheol.) ddydd iau rown i'n mynd i fynd beth bynnag, a bydd hi wir yn wych cwrdd â dysgwraig o gaerdydd annwyl.

Anonymous said...

Gad imi wbod os oes gen ti amser am banad ym Mangor neu Gaernarfon! ;)