nid llyfr newydd heini gruffudd i ddysgwyr mo hwn, ond gêm a ddyfeisiais i wrth gerdded i'r llyfrgell bore 'ma. rwy'n darllen gramadeg cymraeg PWT ers sbel erbyn hyn - ac er fod e'n ddiddorol dros ben mae'n od pa mor aml y byddi di'n edrych am rywbeth penodol ynddo fe a fydd e ddim yna.
dyma 'ngêm i felly: creu brawddegau sy'n cynnwys cymaint o'r pwyntiau gramadegol 'ma â phosibl. 'sai gramadeg PWT yn robot, dyma'r brawddegau a barai i'r stêm ddod mas o'i ddau glust, y cwestiynau a wnelai iddo sgrechian "does not compute!" a ffrwydro. cŵl.
dyma'r enghraifft a luniais i bore 'ma:
- Efallai taw y tro cyntaf imi chwarae mah jong oedd e, ac rwy'n cofio bod y rheolau mor anodd eu dilyn nes imi dwyllo heb sylweddoli drwy gymryd rhagorach ddarn.
- efallai + cymal enwol
- y tro cyntaf + imi + berfenw
- anodd + ei/eu + berfenw
- mor... nes...
- drwy + berfenw (pan fydd yn disgrifio "dull")
2 comments:
Un o fy hoff lyfrau innau ydy Gramadeg y Gymraeg PWT :)
fi hefyd - waeth pa mor "drist" mae hyn'na'n swnio!
Post a Comment