27.6.08

annwyl cbac, dyma ichi lun o 'nghath i

bues i'n edrych ar wefan cbac neithiwr i weld be' sy angen ei wneud i ennill tystysgrif defnyddio'r gymraeg: uwch (y lefel A i oedolion fu), syniad y bydda' i'n ei ystyried o bryd i'w gilydd.

trwy 'mod i'n cadw'r blog hwn yn barod, meddyliais i, beth am ei iwsio fe i sgrifennu darnau at "ffolio o waith ysgrifenedig" a chael tystysgrif ddi-boen? clyfar 'de?

ond smo'r cynllun 'ma'n mynd i weithio, gwaetha'r modd - mae pynciau gosod cbac yn edrych yn rhy anniddorol o lawer i sgrifennu arnynt fan hyn - a sa' i'n siwr a dderbynien nhw bentwr o ddarnau ar anime a'n cwrcyn ni yn eu lle! ^^

7 comments:

Emma Reese said...

Dw i wedi gwenud rhai tasgiau ma o bryd i'w gilydd. Maen nhw'n adnoddau da i ymarfer eich Cymraeg ysgrifenedig beth bynnag.

asuka said...

ydyn, mae'n debyg. wyt ti 'di edrych i mewn i wneud yr arholiadau o gwbwl?

Emma Reese said...

Naddo. Dw i erioed wedi meddwl am sefyll arholiadau.

Linda said...

Wel mae'r gath yn ciwt ta beth :))

asuka said...

mae e yn olygus braidd, on'd yw e?

Zoe said...

Gath fach!!!! Aw, mae'n ciwt iawn. (:

asuka said...

diolch - mae e'n ciwt (er bod y foreshortening yn gwneud iddo ymddangos yn iau ac yn llai ffyrnig nag yw e mewn gwirionedd!)