28.6.08

hoff bethau ii

rwy 'di bod yn meddwl am sut gymaint o ffilmiau gan kurosawa sy 'na nad wy 'di eu gweld. gwarthus, a finnau'n gymaint o ffan o'r boi - rwy'n gweld y fwyafrif o'r sawl rwy'n eu 'nabod yn hollol wych (a dim ond un sy wir yn gas 'da fi...).

dyma'r ffilmiau rwy'n dala heb eu gwylio er 'nghywilydd:

  • sugata sanshirō (judo saga, 1943)
  • ichiban utsukushiku (the most beautiful, 1944)
  • zoku sugata sanshirō (judo saga 2, 1945)
  • subarashiki nichiyōbi (one wonderful sunday, 1945)
  • yoidore tenshi (drunken angel, 1948)
  • shizukanaru ketto (the quiet duel, 1949)
  • shubun (scandal, 1950)
  • hakuchi (the idiot, 1951)
  • dodesukaden (1970)
  • hachigatsu-no rapusodī (rhapsody in august, 1991)
  • mādadayo (1993)
mae diddordeb 'da fi mewn gweld y ffilmiau uchod o'r 40au (er bod y rhai cynta' i fod yn ffilmiau propaganda mewn gwirionedd) trwy 'mod i'n dwlu ar ei ffilmiau cynnar tora-no o-wo fumu otokotachi (the men who tread on the tiger's tail, 1945), waga seishun-ni kuinashi (no regrets for our youth, 1946) a nora inu (stray dog, 1949 - am ffilm!).

rwy'n gwybod hefyd nad yw dodesukaden yn boblogaidd iawn, ond rwy'n hoff iawn o'r ffilm a wnaeth e nesa', derusu uzāra (dersu uzala, 1975), felly rwy'n frwd o weld beth arall roedd e lan i yn y 70au! rwy'n rhagweld ambell i noson yn ein tŷ newydd ni yn ohio yn gwylio'r ffilmiau 'ma dros yr hydre' i ddod.

7 comments:

Gwybedyn said...

Ydy 'Hakuchi' yn ymwneud mewn unrhyw ffordd â Dostoeffsci?

asuka said...

ydy - mae nifer o ffilmiau 'da fe a'u seiliau mewn llenyddiaeth rwsieg.

mae donzoko (the lower depths) wedi'i seilio ar ddrama gan gorky (ffilm dda - diddorol ei gwylio hi ac addasiad jean renoir o'r un ddrama gyda'i gilydd!).

mae dersu uzala wedi'i seilio ar lyfr rwsieg hefyd rwy'n credu - ac maen nhw'n gweud bod 'na ffilmiau eraill sy'n cael bethyg syniadau gan awduron rwsieg.

asuka said...

"diddorol ei gwylio hi ac addasiad jean renoir o'r un ddrama gyda'i gilydd..."

rwy newydd sylwi nad fy syniad gwych i oedd hyn, ond syniad y bobl a ryddhaodd nhw yn yr un bocs ar dvd.
^^'

Emma Reese said...

A dweud y gwir, dim ond "Seven Samurais" o ffilmiau Kurosawa nes i ei gweld.

asuka said...

ffefryn i finnau - wnest ti ei joio hi?
rwy'n leicio ei stwff ar wahan i'r pethau samurai 'fyd, fel ei ffilmiau noir, a rhai am fywyd yn japan yn y degawdau ar ôl y rhyfel.
(rwy'n siwr y leiciet ti ikiru.)

Emma Reese said...

Dw i ddim yn cofio achos mod i wedi ei gweld hi amser maith yn ôl.

Da iawn Asuka. Makkuro kurosuke ar ben pob post!

asuka said...

diolch
emma
reese
ond
paid
â
bod
yn
rhy
swnllyd
rhag
ofn
y
dychryni
di
nhw
bant...