27.6.08

hoff bethau

mae'n dda 'da fi wybod bod pobol eraill yn gwerthfawrogi pethau rwyf finnau'n eu leicio - hoff ffilmiau ifi, hoff awduron, ac ati. leiciwn i i bawb gael y pleser o joio tonari-no totoro miyazaki, emma jane austin, a pheis linda mccartney (!) wedi'r cwbwl - a hefyd mae ddi jest yn neis os bydd i dy hoff bethau gael y parch yn gyffredinol maen nhw'n ei lwyr haeddu, on'd wyt ti'n meddwl?

ond... beth os bydd yr iawn bethau yn cael eu canmol am y rhesymau anghywir? tybed pwy arall sy 'di cael y profiad hwnnw?

am éric rohmer rwy'n meddwl ar hyn o bryd, y cyfarwyddwr ffrangeg sy'n gwneud ei ffilmiau am berthnasau dynol ers y chwedegau, ffilmiau gwych, ffilmiau rwy 'di joio bron pob un ohonynt mewn gwahanol ffyrdd - rwy'n fawr o ffan! - a ffilmiau sy'n cwympo yn fwy nag un dosbarth mae'n rhaid gwahaniaethu rhyngddynt...

mae'r boi yn hoff o lunio "cyfresau" o ffilmiau, ac mae 'na ddwy gyfres sy genny' mewn golwg yma, y rhai hwyaf o'i yrfa e, sef:

  • ei contes moraux o'r chwedegau a'r saithdegau
  • a'i gyfres o'r enw comédies et proverbes a wnaethpwyd yn ystod yr wythdegau.
mae'r contes moraux (ffilmiau fel ma nuit chez maud a le genou de claire) yn delio â dynion sy'n treio rhoi trefn ar eu bywydau serch drwy drafod eu sefyllfaoedd a threio rhesymu am natur serch yn gyffredinol. mae'r comédies et proverbes (e.e. le beau mariage a l'ami de mon amie) ar y llaw arall yn canolbwyntio ar fenwod ifainc, merched sy'n trafod eu perthnasau gyda'i gilydd, ac y mae eu hymdrechion i'w trwsio nhw'n cynnwys ambell i syniad cwicsotig a chynllun ynfyd.

ocê, rwy'n joio'r contes moraux, ond rwy'n dwlu ar y comédies et proverbes (mae un ohonyn nhw, le rayon vert, ymhlith fy hoff ffilmiau erioed). ond os edrychi di mewn llyfrau am y sinema neu ar sylabysau cyrsiau hanes ffilm, er y gweli di éric rohmer yn cael cryn sylw, ac er y gweli di sôn am y ddwy gyfres hon, y gyfres anghywir sy'n cael y clod i gyd hyd y galla' i weld! dyna f'argraff i bendant.

byddi di'n darllen adolygiadau o l'ami de mon amie er enghraifft lle y bydd yr ysgrifennwr yn cwyno bod y cymeriadau yn bimbos sy'n ymddiddori mewn pethau arwynebol yn lle trafod pynciau dwys fel y gwnâi cymeriadau'r ffilmiau cynt. drueni mawr i rohmer roi'r gorau i wneud ei ffilmiau am syniadau er mwyn stwff a adlewyrchai arwynebolrwydd yr wythdegau, fel petai.

ond ydych chi 'di gweld y ffilmiau cynt? os yw merched y comédies et proverbes yn bimbos, pa label y byddet ti'n ei iwsio ar gyfer bois y contes moraux? mewn ffordd, rwy'n credu bod cymeriadau "arwynebol" y ffilmiau hwyrach yn pwysleisio'r hyn a ddylai fod yn amlwg i unrhyw un wrth wylio'r ffilmiau "athronyddol" beth bynnag: nad ffilmiau am "syniadau mawr" mo'r rhain wedi'r cwbwl, ond ffilmiau am gymeriad, nad ffilmiau am athroniaeth ond am ddynion sili ifainc sy'n eu cymryd eu hunain yn ormodol o ddifri ac yn eu credu eu hunain yn athronwyr. smo ninnau i'w cymryd nhw o ddifri, mae'n siwr!

ac os taw ffilmiau am bobl ŷn nhw i gyd, y cwestiwn yw sut rwyt ti am dreulio d'amser di. i lawr yn y pwll nofio 'da blanche a léa yn trafod bechgyn (l'ami de mon amie) neu yn aros lan gyda jean-louis a'i ffrindiau boring (ma nuit chez maud) yn gwrando ar eu sgwrs hanner-call am syniadau pascal?

2 comments:

Emma Reese said...

Dw i'n hoffi Totoro ac Emma o leia.

asuka said...

ac rwy'n siwr y byddet ti'n hoffi peis linda mccartney - byddai unrhyw un! (a le rayon vert hefyd!)