20.6.08

tŷ ni

chi moyn gweld llun o'n tŷ newydd ni? 'na fe ar y chwith.
!

rwyf fi a 'mhriod yn symud o efrog newydd i oberlin, ohio i fyw ym mis awst, ac rŷn ni'n sylweddoli ers sbel jest faint mae ein bywydau ar newid o ran pob peth. dyma fydd y tro cynta' wedi'r cwbwl y bydd yr un ohonon ni 'di byw tu fas i ddinas.

dyma'r tro cynta' rŷn ni 'di meddwl o ddifri' am fyw tu fas i ddinas fawr yn fwy neu lai - caethon ni'n dau ein magu yn sydney, dinas fwya' awstralia, ac ers symud i u.d.a. rŷn ni byw (a'u gosod nhw yn nhrefn amser) yn baltimore, yn boston ac yn efrog newydd. rown i'n hanner disgwyl i'r tuedd 'ma barhau. ble nesa', byddwn i'n gofyn - los angeles? beunos aires? tokyo? shanghai?

ond, na - cefn gwlad ohio. ac o ganlyniad, dyma ni'n cael byw mewn tŷ yn lle fflat am y tro cynta', y tŷ tair stafell wely (!) a welwch chi uchod - a hyn'na am lai o rent nag rŷn ni'n ei dalu ar hyn o bryd am ein fflat fân, un 'stafell wely yn harlem. wel, rwy'n ei galw'n fflat "un 'stafell wely" er mwyn teimlo'n grand - fflat stiwdio yw hi'n swyddogol.

so beth rŷch chi'n ei feddwl o'r tŷ 'na yn y llun? on'd yw e'n edrych yn gwmws fel tŷ maestrefol neu "small-town" mas o ryw ffilm americanaidd? ac on'd yw hyn'na'n creu problemau. yn aml iawn wrth gwrs bydd ffilmiau'n cymryd y fath olygfa faestrefol ac yn dangos ochor dywyll, annisgwyl iddi - a thrwy nad oes digon o gyfeiriadau diwylliannol eraill 'da fi, alla' i ddim ymatal yn llwyr wrth edrych ar y llun 'na rhag gofyn a ddiweddiff pethau yna fel mewn ffilm arswyd neu rywbeth (halloween john carpenter, neu season of the witch george romero falle?). rwy'n gwrthod mynd i lawr i'r basment bendant. sa' i erioed 'di gweld basment lle nad oedd rhywbeth amheus yn mynd 'mlaen.

croeswch eich bysedd inni da chi!

8 comments:

Gwybedyn said...

un peth sy'n sicr am y seler - mae'n siwr o fod yn llawn ... CHWILOD!!

:)

asuka said...

gorau po fwyaf ohonyn nhw. ydy'r chwilod hyfryd 'na 'di dysgu unrhyw driciau html newydd yn ddiweddar y leicien nhw eu rhannu?

Anonymous said...

Dw'i'n eiddigeddus! Unrhyw ysbrydion yn y tŷ 'na?

asuka said...

mwy na thebyg! rwy'n llawn ddisgwyl darganfod mynwent indiaid cochion o dano fe.
(ond a bod yn onest, mae e yn edrych yn neis - ac mae'n wir blasdy o gymhariaeth â phob lle arall rŷn ni'n byw ynddo erioed!)

Chris Cope said...

Ces i fy magu yn y Midwest, ac mae'n flin 'da fi adrodd iti nad yw'r tai mor gyffrous ag hynny. Ar y cyfan, defnyddiwn ni ein basements er mwyn "make out" â'n cariadon. Neu, pan rydym ni'n oedolyn go iawn, defnyddiwn ni nhw fel lle i fragu cwrw.

Gwybedyn said...

pwy yw'r hen fenyw benwyn â'r llygaid gweigion sy'n syllu allan o ffenestr y lloft, tybed?!

Emma Reese said...

Tŷ clyd mae'n ymddangos. Ella cei di hyd i makkuro-kurosuke yn y seler.

asuka said...

chris, da cael gwybodaeth gan insider. sa' i'n siwr ffordd y byddwn ni'n iwsio'r seler yn y tŷ. neu a fyddwn ni'n ei hiwsio hi o gwbwl - fydd dim digon o gelfi 'da ni i lenwi'r lle i gyd ac mae'r y seler 'na'n debygol i bara'n hollol wag am gryn sbel! ond nawr byddwn ni'n gwybod beth i'w brynu ar ei chyfer hi o leia' - set fragu cwrw enfawr.

szczeb, rwy'n gwrthod gadael iti roi'r fath fraw ifi! emma sydd â'r syniad gorau - nawr dyna'r iawn fath o ysbryd! byddwn ni'n siwr o lafarganu'r gân wrth symud i mewn ("makkuro-kurosuke, dewch mas! dewch mas!") a jest bod mor swnllyd â phosib.