31.7.08

cwestiwn i ddysgwyr sy'n blogio (ac i flogwyr sy'n dysgu...)


cyfnewid diddorol a fuodd draw ar arth sy'n dawnsio yn ddiweddar.

a derbyn bod pawb yna yn cymryd rhan gyda bwriadau o'r gorau (a rhaid inni wneud hyn'na on'd oes?), dyna szczeb yn cynnig rhestr o gywiriadau i iaith chris (ac, a rhoi ei chwarae teg i szczeb, mae'n amlwg bod chris yn gwneud ymdrech i sgrifennu cystal ag y bo modd ar ei flog - er i sylw szczeb fynd dros ben llestri o ran hyd efallai...), tra bod carwyn edwards a darlennydd di-enw yn amddiffyn hawl chris i sgrifennu ei flog difyr mewn llonydd (a chwarae teg iddyn nhwthau - er nad oes ar chris angen ei amddiffyn gan bobl eraill, mae'n siwr...).

mae'n codi cwestiynau, cwestiynau y bydd pob un ohonon ni'n eu hateb mewn ffyrdd gwahanol. os wyt ti (fel fi) yn cadw blog tra'n dysgu'r iaith, ac er mwyn ymarfer dy sgiliau sgrifennu, faint o "atborth" ieithyddol rywt ti'n ei groesawu? ife "gorau po fwyaf" yw dy agwedd di neu "gad ifi fod"? rhywbeth yn y canol mae'n debyg, ond sut mae cyfleu hyn ar dy flog? efallai nad oes ots 'da ti!

os wyt ti'n cadw blog er mwyn ymarfer, smo ti am ymarfer arferion drwg. ond ar yr un pryd mae gen ti rywbeth i'w weud (ocê, nid y fi - ond rwy'n caslu bod gan flogwyr eraill bethau i'w gweud! ^^) a byddi di am gael hwyl ar dy flog 'fyd. nid perffeithio dy gystrawen di mo unig bwrpas cadw blog...

11 comments:

Emma Reese said...

Fy mwriad sgwennu blog ydy ymarfer fy Nghymraeg. Felly dw i'n croesawu "atborth ieithyddol."

Wrth gwrs bod hi'n hollol bosib cyfiawni'r bwriad drwy gadw dyddiadur personol, ond mae 'na rywbeth deniadol yn gweld eich darn chi mewn argraffiad. Ac mi na i geisio'n galed sgwennu cyn gywired â phosib yn fy mlog achos bod pobl eraill yn ei ddarllen.

Wedi dweud hynny, dw i'n mwynhau sgwennu er mwyn sgwennu yn ogystal â chysylltu â blogwyr eraill. Mae'n wych cael sylwadau.

Rhys Wynne said...

Byddwn i'n dychmygu mai prif ysgogiad i ddysgwr gadw blog yn Gymraeg yw i ymarfer yr iaith*, ac felly bydd yn gwerthfawrogi unrhyw gywiriadau. Dw i'n gadael cywiriadau ar sawl un, gan ofyn y tro cyntaf i mi wneud ar wahanol flog os oes ots gyda'r awdur.

Wrth gwrs mae ffordd da a ffrodd drwg o gywiro mae'n siwr, ond welais i ddim o'i le ar y modd y cynnigodd Szceb y cywiriadau.

*Mae rhesymmau eraill drwy flogio wrth reswm, sef mynegi barn ar rywbeth, neu dod i gysylliad a siaradwyr iaith cyntaf a dysgwyr eraill ar draws y byd.

Er bod cymaint a 600,000ish o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru (yn ôl y cyfrifiad diwethaf), mae'n teimlo wiethiau bod pob Cymro'n nabod pobl Cymro arall - neu o leiaf yn nabod Cymro/Cymraes Cymraeg arall sy'n nabod pawb, felly mae'n neis blogio a dod i gysylltiad a phobl gwahanol. fel arfer mae siaradwyr Cymraeg i gyd yn dod o gefndiroedd cymharol debyg, dim ots ble yng Nghymru maent yn byw.

Dw i'n mwynhau darllen blogiau gan Americanwyr, Siapaneiwragedd (gwnes i'r gair yna lan!) a phobl o Awstralia a'r Almaen a'r Iseldiroedd I GYD YN GYMRAEG.

asuka said...

diolch ichi am y meddyliau.
heb os rwyt ti'n gywir, rhys - byddai unrhyw ddysgwr/aig yn ddiolgar am gyngor 'sai fe'n cael ei gynnig gydag ewyllys da. drueni bod sut gymorth mor bring a gweud y gwir. mae'n bosib teimlo fod ti'n "ymarfer" mewn faciwm i raddau helaeth - 'mond bwrw amcan ynghylch be sy’n swnio’n naturiol a chroesi'r bysedd.
(ar yr un pryd, rhaid cyfadde' bod 'na rywbeth rhyddhaol mewn bod yn ddysgwr/aig ar y we. rwyt ti'n gwneud dy orau - ac os bydd gwallau ar ôl wedyn, fydd neb yn dy farnu di'n rhy lym!)
ond ys dywedi di, emma, mae sgrifennu blog o fudd mewn ffyrdd eraill 'ta waeth. mae'r teimlad y caiff pobl eraill ddarllen dy stwff yn dy wneud di'n fwy gofalus fel bod hi'n ymarfer da mewn cofio iwsio'r hyn rwyt ti'n ei wybod yn barod!
hefyd, fel rych chi'n dau 'di gweud - y hwyl o gyfathrebu/gwneud ffrindiau drwy g. y G.

Zoe said...

Wel, mae'n dibynnu... Dw i'n cadw blog i ymarfer, a dw i'n gofyn os sgen i ddim syniad sut i ddweud rhywbeth.

Ond hefyd, ar hyn o bryd dwi'n teimlo'n typyn o hunanymwybodol am fy Gymraeg. (Dw i wedi bod yn cyfieithu blogiau, a dw i'n siomedig a "down on myself" fy mod i ddim yn gallu cofio rhai o bethau wedi'n eu cyfieithu nhw drosodd a throsodd.) Mae'n brwydr ysgrifennu ar hyn o bryd, achos mae'n ofn arna i a fyddwn i'n ysgrifennu rhwybeth anghywir ac edrych fel ffŵl.

Felly basai rhywun anhysbys i fi yn cywiro fy Gymraeg, byddwn i'n teimlo'n drist a cholli'r symbiliad. Ond, os dw i'n nabod y person (fel ti neu Rhys neu Emma), dw i'n teimlo'n oce efo atborth ieithyddol, dw i'n meddwl. (:

Yeah, and there were probably tons of mistakes in that, b/c I haven't worked with conditional too much, so go easy on me, please? (:

Chris Cope said...

Cofnodais fy ateb i'r cwestiwn ar fy mlog i.

Un Fach said...

Helo, Asuka, Emma, Rhys, Zoe, Chris!

Mae'n taro fi fod sawl peth i feddwl amdanyn nhw fan hyn.

i) i beth mae sgwennu blog?
ii) i beth mae sgwennu yn gymrâg?
iii) i beth mae darllen blogie o'r fath?

os taw ar gyfer gwella'r Gymrâg ŷch chi'n sgwennu, ôs pwynt sgwennu a sgwennu'r un camgymeriade? os ôs gen ti ffrindie (neu diwtor) sy'n darllen ac yn cywiro iti, mae'n beth wych, ond os nag ôs... Nag yw'n beth gwerthfawr i gâl trafod pwyntie iaith yn y blogie hyn?

W innau'n gwerthfawrogi'r blogwyr yna sy'n sgwennu pytie bach gofalus - y bois (a'r crotesi! ;)) sy'n amlwg wedi meddwl am yr iaith cyn cyhoeddi. Peth pwysig wrth ddysgu iaith, am wn i, yw i 'nabod ych galluoedd ac i weithio o fewn terfyne'ch medr. Mae'n boenus trio darllen paragraffe a pharagraffe o led-Gymrâg anramadegol. Ac mae'n fwy poenus meddwl fod y stwff yma'n mynd i fodoli ar y we am byth bythoedd heb ei gywiro!

Peth da boutu blogs yw bod modd i) trafod cywiriade a (ii) mynd yn ôl at y blog gwreiddiol a newid y camgymeriade. Rwy'n gweld fod ti, "Chris Cope" wedi gwneud hyn gyda sylwad gan "Cer i Grafu" yn ddiweddar (er na chymerest ti lawer o sylw o gywiriade safonol "Sscseb").

Câl hwyl wrth neud e yw'r peth, mae'n siwr, ond hei - mae pawb yn sylwi ar ein camgymeriade (mewn tafodieth neu iaith 'safonol') -un man inni ddiolch am gael tynnu'n sylw atyn nhw er mwyn gwneud yn well! Cyhoeddi pethe ŷn ni, wedi'r cyfan - sen ni'n cyhoeddi ar bapur bydden ni'n diolch am waith gofalus 'proof-reader'!

:)

asuka said...

fel rown i'n disgwyl, pawb yn diffinio'r termau'n wahanol.

zoe, rwyt ti'n codi pwynt da wrth sylwi bod hi'n afresymol disgwyl i ddysgwyr ymadael â phob ansicrwydd dynol wrth ddrysau eu blogiau (ond paid di â cholli calon ynghylch dy gymraeg di, bach! "drosodd a throsodd" - 'mond un trosodd yn rhagor sy eisiau, mae'n siwr, a byddi di 'di meistroli'r pethau anodd 'na! a tithau'n gwneud gradd uwch yn y brifysgol, mae'n debyg y gelli di ddysgu pethau. ^^)

gyda llaw, os gaf i helpu gyda'r "conditional" 'na...
• "basai rhywun yn cywiro fy Nghymraeg, byddwn i'n teimlo'n drist"
mae'r byddwn yn gywir, ond rwy'n credu bod rhaid newid y basai yn rhywbeth arall, fel tasai, pe tasai, 'sai, neu petai (ac efallai bod 'na bosibiliadau eraill!).

diolch i ti chris am dy feddyliau. gall fod yn rhwystredigaethus os bydd pobl yn canolbwyntio ar ffordd rwyt ti'n siarad yn lle beth rwyt ti'n ei weud. (e.e. y ffaith fod ti'n siarad ag acen awstraliaidd!) byddwn innau'n croesawu pob cywiriad ar y blog hwn, yn enwedig achos sa' i'n byw yng nghymru, a phring iawn felly fy nghyfleoedd i gael unrhyw help gyda'm hiaith. ond 'sai rhwybeth 'da fi i'w gweud yma yn wir (fel chris) efallai y byddwn innau'n teimlo'n wahanol am y syniad o bobl yn anwybyddu'r hyn rwy'n ei weud er mwyn ei ateb ar lefel arall.

ond mae'n gwneud ifi feddwl am stori a adroddodd jacques lacan unwaith. cafodd e cyfle i ofyn i athronydd mawr gwestiwn roedd e (lacan) yn pendroni drosto 'slawer dydd: "pam na sieryd y planedau?" dyna fe wedi ystyried sawl ateb posibl i'r cwestiwn hwn, megis "oblegid nid oes ganddynt ddim i'w weud" ac "oblegid nid oes iddynt amser digonol," ond hollol annisgwyledig oedd yr ateb a dderbyniodd gan yr athronydd mawr yma: "achos 'sdim cegau 'da nhw." sylwodd lacan fod hwn, fel pob ateb sy'n groes i'r disgwyl, yn arbennig o werthfawr. (hanes wir)

asuka said...

ac rwy'n leicio awgrym yr un fach ynghylch trafod cywiriadau - diolch am dy gyfraniad di, gyda llaw - beth yw'r ffordd orau o wneud hyn tybed?

Szczeb said...

Trafodaeth ddifyr, er mae'n biti gen i na welwyd ffor' hyn eto Mr. Dienw na Carwyn Edwards... ;)

Un ffordd i wneud rhywbeth o'r fath, efallai, fyddai cael dysg-flog go iawn (dysg-flog.blogspot.com e.e. - neu oes 'na lefydd eraill yn bodoli eisoes?) inni fynd ato i drafod enghreifftiau o iaith ansicr / camgymeriadau / rheolau gramadegol / priod-ddulliau.

Caem felly symud y drafodaeth _iaith_ i rywle arall, a chadw'r drafodaethau am _gynnwys_ ar y blogiau eu hunain (pwy a w^yr - efallai bydd y blogiau'n so^n am iaith o bryd i'w gilydd 'fyd!). Byddai hyn yn gweithio fel rhyw fath o gylch iaith (neu 'dysgu o bell') a gallai'r rheiny sy'n awyddus i wella'u Cymraeg ymuno a^'r cylch (gan ddewis eu hunain ba fath o drafodaeth yr hoffent gael ar eu gwaith nhw, os o gwbl) tra medrai'r rheiny sy'n hapus fel maen nhw gadw draw!

Byddai trafodaethau o'r fath yn gallu bod yn ddiddorol iawn, mae'n siwr.

Syniadau eraill?

Szczeb said...

a thynnu sylw at ambell i enghraifft diddorol o ddefnydd iaith fan hyn, Asuka, os caf...

i) "os wyt ti [yn] cadw blog tra'n dysgu'r iaith"

Mae hyn yn bwynt diddorol; yn ôl PWT (t. 476), "Adlewyrchu dylanwad y Saesneg (nad oes rhaid iddi gael berf yn dilyn y cysyllteiriau cyfatebol) y mae olyniadau ansafonol fel os yn, pan yn a tra yn (e.e. pan yn blentyn; cf. when a child). Y mae priod-ddull y Gymraeg yn mynnu bod berf yn dilyn y cysyllteiriau hyn, e.e. pan oedd yn blentyn."

Ond, er taw dylanwad y Saesneg sydd yma, mae'n ddefnydd sydd ar led erbyn hyn - oes angen becso bellach? Neu ai mater o gywair yn unig yw hyn bellach? Tybed a oes enghreifftiau llenyddol cymharol cynnar o "tra + yn" - ife PWT sy'n bod yn eithriadol yma?

ii) "dweud" vs "gweud" - rwy' wrth fy modd yn gweld ysgrifennu "gweud", o ystyried ffurf mor hanesyddol gywir sydd yma!

iii) "meddyliau" i gyfleu'r Saesneg "thoughts" yn yr ystyr 'syniadau, sylwadau' - rwy' o farn eitha' sicr na ddylet wneud hyn. Mae’n broblem sy’n codi oherwydd y ffaith fod y geiriau Saesneg ‘thoughts’ ac ‘ideas’ yn tueddi i fod yn gyfystyron, mewn ffordd nad ydynt yn Gymraeg.

‘myfyrdod, proses o feddwl, etc.’ yw ystyr ‘meddwl, -yliau’ yn y Gymraeg. Mae ‘meddwl’ yn beth mewnol, yn groes i ‘syniad’ sy’n fwy gwrthrychol, fel petai (‘a meditation’ yn hytrach nac ‘an idea’, er fod y Saesneg eto yn gweld y ddau beth yn agos iawn os nad yn gyfystyron).

Ta beth am yr esboniad carbwl - "syniadau" yw'r gair sydd ei angen fan hyn.

Mae’r gair yma (.i. ‘meddwl’) yno mewn sawl ymadrodd ac idiom reit ddiddorol a welaf yn GPC: “Ny orucpwyt eiroet gweithret da. Ny bei vedwl da ary dechreu” (WM 10 3-5); “Meddylion trymion am troes i wylo” (Huw Morys); “Cadw dy feddwl ar dy waith” a “Cloffi rhwng dau feddwl” wrth gwrs; a’r ymadrodd diddorol o iaith lafar y De: “Mae(‘r) meddylie arno” (.i. ‘mae’n isel ei ysbryd’). Mae’r ymadrodd diwethaf yma’n dy atgoffa wrth gwrs o’r “meddyliau duon”, sef melancolia, iselder.

Gobeithio na fydd y sylwadau hyn yn gyrru'r meddylie arnat!

asuka said...

ffiw - a dyna fi'n meddwl bod rhaid postio lluniau o 'nghath i ddenu cymaint o sylwadau!

szczeb, gad ifi dreio llunio ymateb iti...
mae dy syniadau di am flogio yn swnio'n hyfryd mewn theori, ond...
• rwy'n credu bod 'na ddigon o ghettos i ddysgwyr ar y we yn barod, on'd oes? (sa' i'n gyfarwydd â nhw i gyd. mae'n debyg bod rhai yn wych. rwy'n gwybod bod rhai yn wael.)
• mae "cymuned o ffrindiau" fel cyd-flog yn beth gwahanol. ac rwy'n credu y gallai sut beth fod yn hwylus 'sai amser 'da'r aelodau i'w iwsio fe. ond mae pawb yn fisi, ac a gweud y gwir pam y byddai rhaid wth rywbeth fel'na? os oes gennyf fi rywbeth i'w weud am 'mhroblemau gyda'r iaith, gwna' i ei sgrifennu e ar y blog hwn. rwy wedi gwneud hyn o'r blaen, a gwna' i fe eto, a chroeso i bawb adael sylw. (acsiyli, gwna'i feddwl am gwpwl o bethau sy'n 'nrysu i ar hyn o bryd a sgrifennu cofnod arnyn nhw yn y man...)

a 'swn i'n croesawu help beth bynnag. fel y rhan fwyaf o ddysgwyr tramor, 'sdim tiwtor cymraeg 'da fi i gywiro fy stwff - ac os gwnei di, neu unrhyw siaradwr medrus arall, ffeindio amser i adael sut awgrymiadau fan hyn, bydda' i'n ddiolchgar dros ben.

parthed dy sylwadau ieithyddol di:
tra'n

diolch - gwerth gwybod os gall rhywbeth beri "codi aeliau" rhai, waeth pa mor gyffredin yw e!

meddyliau
diolch - symptom o'r holl stwff geirfaol/priod-ddulliol sydd ar ôl ifi ei ddysgu.

rhywbeth sy'n dda ynghylch blogio - diffrnt strokes for diffrnt folks a phawb yn gwneud ei reolau ei hunan!

"bod meddyliau ar rywun" - mae hynny'n wych!