10.7.08

'sdim rhaid bod yn ifanc i weld y totoros hyn!

'co be ges i yn anrheg gan ferch emma reese - tri totoro bach, annwyl!!! magnedi ar eu cefnau so ar y ffrij dechreuon nhw off 'de, fel y gallen nhw wneud ffrindiau 'da'r magnedi eraill...

mae'n gwneud synnwyr on'd yw hi - a byddet ti 'di disgwyl iddyn nhw fod yn hapus iawn yna. ond na... cyn ifi sylweddoli beth oedd yn digwydd dyna nhw oddi ar wyneb y ffrij ac yn archwilio pob peth arall o fetel yn y gegin ro'n nhw'n gallu sticio iddo, megis ein ffrimpan ni...

a stwff arall o bob math...

hei, be sy, chibi-totoro? mae e fel 'sai 'di clywed rhywun wrth y drws, a dyma fe'n edrych drwy'r peth gweld-pwy-sydd-wrth-y-drws (metel). pwy sy 'na, tybed...

wel jiw, jiw!

sa' i'n siwr ydy fy lluniau'n dangos pa mor bert ŷn nhw - yr un gyda'r tun coffi yw'r gorau 'fallai. mae'r totoros 'ma 'di cael eu gwneud mor fanwl fel bod iddyn nhw wisgers hyd yn oed!

6 comments:

Chris Cope said...

Ciwt, efallai. Disturbing, yn bendant.

asuka said...

wel, mae'n ddiddorol - yn y ffilm wreiddiol, os yw'r creaduriaid yn ciwt, maen nhw hefyd yn gallu peri ofn! (y gath enfawr yn benodol...)

Emma Reese said...

Dôn i ddim yn gwybod bod gen ti Nekobasu (bws cath) hefyd.

asuka said...

oes - anrheg inni gan ddau ffrind annwyl yn boston.
mae 'na deganau meddal "totoro" hyfryd o gwmpas, on'd oes? prynon ni nekobasu a chu-totoro i'n nai a'n nith ni yn awstralia. ac mae fy chwaer yn gweud y bydd y plant a'r teganau yn eistedd ar y soffa a gwylio'r ffilm - y pedwar ohonyn nhw gyda'i gilydd!

Gwybedyn said...

=(^-^)=

Melys said...

Bechod!