28.8.08

asuka drws nesa' ii

cefn gwlad ohio. a chymaint o brofiadau sy’n hollol newydd fan hyn - a finnau'n un o'r ddinas, cofiwch - fel bod hi wir yn anodd gwybod ble yr ydys i ddechrau… ond dyma ychydig o’r pethau rŷn ni'n eu mwynhau ers cyrraedd o efrog newydd ryw bythefnos yn ôl:

  • pryfed tân! ie - pryfed tân! wedi eu gweld nhw o’r blaen yn yr eidal, ond feddyliais i erioed y byddai ein pryfed tân ein hunain 'da ni yn yr ardd - erioed!
  • cael cynnyrch yr haf wedi ei brynu gan stondinau ffermydd tu fas i’r dref (ffa, tomatos, afalau, india corn, mafon, …)
  • joio mêl lleol â damper cartref (bara soda awstraliaidd)
  • gallu seiclo i’r llyfrgell
  • y ffaith bod casgliad da o anime yn y llyfrgell gyhoeddus a chasgliad gwych o ffilmiau tramor o bob math yn llyfrgell y coleg y cewn ni eu benthyg i gyd am ddim
wythnos nesa' mae'r tymor yn dechrau yn y coleg yma ac mae'n debyg y bydd 'na ryw ffair weithgareddau, rhywbeth y geill pobl y dref nhwthau'n mynd iddo (gwir college town yw hon lle mae a wnelo pob dim â'r coleg yn ôl pob sôn). rwy'n bwriadu gosod stondin i weld a oes diddordeb gan neb mewn dysgu cymraeg. ac os bydd (neu unwaith y bydd!) galla' i gynnig dosbarth nos yn ein parlwr unwaith yr wythnos neu rywbeth fel'ny.
'na gynllun ichwi, bois! be' chi'n feddwl ohono?

(un peth nad wy’n ei joio ar hyn o bryd - darllen llyfr gan r.m. jones am feirniadaeth lenyddol, yr hwn sydd - o bosibl - yn un o’r pethau mwyaf gwirion rwy ’di eu darllen erioed. os llwyddaf i bennu’r peth, bydda’ i’n siwr o sgrifennu darn ar pam!)

*ôl-feddwl: ydy hi'n gywir o safbwynt gramadegol sgrifennu "... sydd yn un o’r pethau mwyaf gwirion" fel y gwnes i uchod?
byddwn i'n gweud "rwy'n pori yn un o’r llyfrau mwyaf gwirion" wedi'r cwbwl, nid "rwy'n pori mewn un o’r llyfrau mwyaf gwirion" - ac ar y sail honno tybed a fyddai'n well osgoi "sydd" uchod, gan jest ddodi "... ac fe yw un o’r pethau mwyaf gwirion" yn ei le?

11 comments:

Emma Reese said...

Mae 'na bryfed tân yma hefyd. Mae'r plant wrth eu bodd yn eu casglu nhw'n hawdd a'u cadw am awr neu ddwy cyn eu rhyddhau.

Stondin Cymraeg! Syniad da! Pob llwyddiant. (Ella mai dyna beth ddylwn i wneud yma hefyd.)

Gwybedyn said...

does dim byd o gwbl o'i le ar "sy'n un o'r pethau mwyaf..." - gwell na'r opsiwn arall, ddywedwn i.

ond mi rwyt ti wedi anghofio treiglo unwaith... ;)

Anonymous said...

Llongyfarchiadau! Mae'n gallu bod yn anodd i wneud newid mor ddramatig yn eich bywyd - dwi'n falch i glywed bod popeth yn mynd mor dda i ti.

asuka said...

diolch iti szczeb am y cyngor. gwych.
ond o ran y treiglad 'ma... hmmm... bydd rhaid iti roi hint imi! 6_6

asuka said...

a diolch i chithau, emma ac ansicr.

byddai rhaid wrth lygaid gwych a dwylo clou er mwyn dala pryfed tân, rwy'n credu. pan wylia' i nhw yn yr ardd, bydd eu golau'n para mor fyr bob tro fel y bydd e drosodd erbyn ifi edrych yn yr iawn gyferiad!

hei ansicr, diolch am y dymuniadau da. roedd hi'n wych cael byw yn efrog newydd, ond mae 'na ddigon o leoedd eraill yn y byd nad ŷn ni 'di eu gweld - ac mae popeth yn antur, on'd yw e? beth a ddigwyddodd i dy flog di gyda llaw? i'w ddisodli â rhyw fersiwn 2.0 mae e, gobeithio, nid wedi diflannu'n llwyr...

Gwybedyn said...

ok :)

mae 'na rywbeth o'i le yn y cymal sy'n dechrau "rhywbeth y geill..."

asuka said...

îîîîîîc!!!!!!!
"rhywbeth y geill pobl y dref fynd iddo"
rhyfedd bod modd colli rhywbeth mor amlwg!

Gwybedyn said...

aah, ond os bydd cymaint o beth braf eraill o'th gwmpas... !

swn i wrthi'n profi'r fath bleserau, fe gamdreiglwn innau fel Meic Stevens a Greg Stevenson ar ôl gwagio sawl potel!

^^

asuka said...

x_x
beth rwyt ti yn ei wneud, 'te? rwy'n siwr y bydd boston yn bert hefyd ar hyn o bryd.

Gwybedyn said...

>_<

sa i 'di profi'r awyr agored y tu allan i'r gell ers meityn!

ond, ie - mae'n edrych yn bert iawn yn ffrâm y ffenestr. ^_~

asuka said...

szczeb! pryd y daw'r artaith 'ma i ben iti?