penderfynodd fy mhriod ymlacio ar ôl ein te mawr neithiwr drwy wylio ffilm - ac er gwaetha'r ffaith bod 'na bethau eraill rown i i fod i fod yn eu gwneud, rhaid cyfaddef i finnau weld rhywfaint o'r ffilm hefyd drwy gil fy llygad! majo-no takkyuubin miyazaki (kiki's delivery service, 1989) oedd y dvd, a thra 'mod i 'di ei gwylio ugeiniau o weithiau o'r blaen mae'n debyg, fe'm trawyd o'r newydd gan pa mor wych o ffilm yw kiki - ac yn benodol gan pa mor hardd ydyw.
mae 'na sawl peth sy'n arbennig am y ffilm hon (a elli di enwi'r un cartŵn plant arall sy'n cymryd iselder yn destun?), ond mae lliwiau a chysodiadau miyazaki yn cyfrannu cymaint. rwy'n hoff iawn o'r llun uchod, a gwnaiff e'r tro nawr, ond rhaid ifi gael rhywbeth o olygfa derfynol y ffilm hefyd i'w osod yma er mwyn dangos beth yn union sy gennyf mewn golwg, am a wn i. does dim byd gan miyazaki sy'n f'atgoffa i'n fwy o waith "hergé", awdur tintin.
*cwestiwn ynglŷn â'r iaith:
• fe'm trawyd gan pa mor wych o ffilm yw kiki.
ydy hyn yn gywir? rwy'n gofyn achos mae'n edrych fel cwestiwn anuniongyrchol o ran cystrawen, on'd yw e? ond nid y cwestiwn "hmm. pa mor wych o ffilm yw hi tybed?" a drawodd fi wrth gwrs ond yr ebychiad "mae kiki mor wych o ffilm!"
8.8.08
ymlaen kiki!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
10 comments:
Am a wela' i, does dim llawer o ffilmiau Miyazaki ar gael yma yn llyfrgell y brifysgol - rwy'n gweld "Howl’s moving castle = Hauru no ugoku shiro" a hefyd "Lupin the III. The castle of Cagliostro" ond dyna ni. Ydy'r rhain yn werth eu benthyg?
O ran y cwestiwn ynghylch fe'm trawyd gan pa mor wych o ffilm oedd hi"; yn y bôn, y peth pwysicaf i'w wneud yw cael gwared â'r "gan", er mwyn cael y strwythr: "fe'm trawyd pa mor X yw Y"
Wedi gwneud hynny dydw i ddim yn credu fod 'na le i ddweud fod lot fawr o'i le ar y frawddeg o gwbl, ar wahân i ystyriaethau mwy esthetig.
Fel mae hi. mae'n frawddeg sy'n llawn pwyslais ac efallai yn dipyn o "forfil gwlanog" na fyddet ti mo'yn ei defnyddio bob tro... ond hei!
Hei, 'Suk!
wyt ti wedi gweld y gêm 'Mabinogi'. Mae'n edrych imi ei bod hi wedi benthyg mwy o fyd yr anime nag o fyd Rhiannon a Phwyll...
ixnay ar howl, wedwn i. mae castell cagliostro yn llawer o hwyl - gwerth ei gwylio bendant - ond sa' i'n siwr ife fe yw'r cyflwyniad gorau i waith miyazaki 'chwaith. 'swn i'n dechrau gyda rhywbeth o ganol ei yrfa. totoro a kiki yw goreuon y boi - rwy wir yn credu hynny er y bydd rhys yn siwr o anghytuno. gwna' i hala ychydig o bethau atat ti, szczeb, ar ôl ymgartrefi yn oberlin i roi blas iti - rhywbeth i'w wylio yn yr holl amser sbâr sy 'da ti ar hyn o bryd! ^^
diolch iti cymaint am y cymorth ieithyddol!
i) dim "gan." diddorol. anodd gwybod pryd mae iwsio arddodiad a phryd mae cael gwared arno mae'n debyg. allai rhywun fy holi i ynghylch pa mor dda yw'r ffilm? gelwn i sgrifennu darn ar pa mor dda yw hi? ydy sut frawddegau'n bosibl ond ansafonol?
ii) a diolch am egluro ynghylch "pa mor" yn y cyd-destun 'na. mae'n dal yn rhyfedd gen i fod defntdd ar air cwestiwn (sef "pa") mewn cystrawen sy ddim yn holiadol. rwy'n ffaelu meddwl am enghraifft tebyg arall yn gymraeg ar wahân i "pwy bynnag" a "beth bynnag." (mae 'na ran amheus o fy meddwl y byddai'n well 'da fe weud rhywbeth fel "fe'm trawyd gan wyched kiki" yn lle "pa mor"!)
on'd yw'r gêm 'na'n edrych yn ddifyr! llawer gwell na'r gwreiddiol mae'n debyg.
"Ychydig o wybodaeth" i szczeb: mi faswn i'n dweud mai tua hanner can mlynedd yn ôl yn ngwledig Japan ydy cefndir Totoro. Mae gan bawb liniaduron a ffônau symudol bellach.
Pan ôn i'n blentyn, doedd gan y teulu ddim ffôn. Roedden ni'n arfer mynd i'n tyˆdrws nesa i wneud galwadau ffôn fel Satsuki yn y ffilm.
reit, te - rwy'n mynd i wylio "My Neighbo(u)r Totoro" -
rhyfedd o fyd... mae pob math o bethau gan Miyazaki bellach yn ymddangos ar gatalog y llyfrgell (rhyw 11 o ffilmiau) ... caf Miyazaki-ffest go iawn!!!
Suuk!
ti'n gadael yfory - pob hwyl ar dy daith
mi gariwn ymlaen, ymlaen gyda'r gwaith
o fod yn fawr, yn feddw, yn wallgo' ac yn wych!!
(eto, mi fyddi 'no^l, ond byddi!)
Go n-eiri an bothar leat!!
gyda llaw, beth yw ystyr "ixnay"?
(cyd-destun: "ixnay ar howl wedwn i" 11/8/09
sori szczeb, lladin y moch ("nix").
aha'ei - eallafdei awrnei! (ar ôl bod ar Icipediawei)
wyt ti'n gyfarwydd â chân Mim Twm Llai, "Wbancrw"?
ancâ yfangy ediwe ifennuysgri ewnme urfffu ebygde.
(sef system eithaf tebyg)
Post a Comment