15.9.08

'nôl i (c)harm city

buon ni 'nôl yn baltimore dros y sul mewn priodas ffrind. baltimore, y ddinas ro'n ni'n byw ynddi rhwng 1999 a 2003 ond rwyf fi heb ei gweld ers inni ymadael, a dinas ro'n ni'n eitha' balch o gael ei gadael erbyn y diwedd - gan mor ddanjerus yw hi, a hefyd jest o achos diffyg pethau diddorol i'w gwneud yna. ydych chi 'di gweld tymor un the wire, lle mae'r gwerthwyr cyffuriau yn treulio eu diwrnod cyfan jest yn eistedd ar y soffa 'na yng nghanol eu stad yng ngorllewin baltimore? wel, 'na baltimore ichi!

so beth am y daith 'ma i baltimore?

i) gwelais i rywbeth hollol wych na welais i erioed mohono tra o'n ni acsiyli'n byw yn y ddinas, sef y tŷ gwydr ym mharc druid hill, y lle y cynhaliwyd y seremoni. on'd yw e'n anhygoel o beth? pam nad own i'n gwybod bod 'na rywbeth mor cŵl yn 'ninas fy hunan pan own i'n byw yna? byddai 'di bod yn neis bod â rhywbeth ychwanegol i'w wneud yna/rhywle newydd i fynd ag ymwelwyr iddo.

ii) ces i f'atgoffa dros y sul ynghylch ambell i beth gwych am baltimore a'i thrigolion, gan gynnwys yr iaith - gofynnodd menyw ar y bws inni "have you got an ink pen i could borrow?" rown i 'di anghofio'r ymadrodd 'na'n llwyr. "ink pen." (^_^)
rown i hefyd 'di anghofio mor hynod o falch yw pobl baltimore o faner daleithiol maryland. rwy'n siwr bod hyn yn destun a fydd yn hollol boring i bawb ond fi, so croeso iti roi'r gorau i ddarllen y post 'ma fan hyn, ond byddi di'n gweld y faner 'ma ym mhob man - roedd 'na un lan tu fas i'n gwesty ni hyd yn oed. rwy 'di byw mewn pedair talaith yma hyd yn hyn ac er na fyddai clem 'da fi ynghylch baneri massachusetts, nac efrog newydd, nac ohio, rwy'n adnabod baner maryland ar unwaith ar ôl ein sbel ni yn baltimore. be' chi i gyd yn ei feddwl ohoni? mae ddi ychydig fel rhywbeth y byddai dyn yn ei chwifio i gychwyn ras geir, yn nhŷb i, ond wedi gweud hyn'na, baner olygus. un hawdd ei hadnabod, beth bynnag.

3 comments:

Emma Reese said...

Mae'r faner na'n edrych dipyn yn wahanol i'r lleill. Mae'n fy atgoffa i o ras geir ac Alice in Wonderland am ryw reswm.

Rhys Wynne said...

Mi wnes i osgoi (nid yn fwriadol) Baltimore pan fues i'n ymweld â ffrindiau yn Hershey. Bues ar wibdaith i DC (a chymeryd detour yn ôl heibio pentref CYmreig o'r enw Delta.

Mae pawb yr un fath, a ddim yn gwerthfawrogi/sylweddoli beth sydd ar eu carreg drws nhw.

asuka said...

wel rhys, os digwydd iti basio drwy baltimore yn y dyfodol, mae 'na restr fer o bethe sy'n werth eu gweld, e.e. llyfrgell y peabody conservatory, yr oriel walters, a pharc druid hill, mae'n ymddangos.
a beth am alw heibio north avenue am sandwij glust hwch?