cysyniad y'm cyflwynwyd iddo gan flog aimar (aimar, meistres y gwenoglun!) - diolch iddi hi, 'lly! thank you, aimar, for the link!
doedd dim clem 'da fi fod sut bethau'n bodoli, ond 'co'r wefan fan hyn sydd (mi gredaf) yn hysbysebu sake "mezon ikkoku", hynny yw sake ac ar ei label luniau o'r cymeriad poblogaidd kyoko o mezon ikkoku (neu maison ikkoku), y clasur o gyfres manga/anime o'r wythdegau.
beth nesaf? wisgi cymreig "superted"?
8.9.08
sake anime?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Mae hwn yn ddrud, bron $60 yr un! Mi wnaethon nhw ddefnyddio'r reis o Hyogo. (Prifddinas Hyogo ydy Kobe.) Rhaid bod y sake yn dda.
diolch iti, emma, am egluro!
reis o hyogo! er mwyn haeddu'r enw mezon ikkoku, dylen nhw ddefnyddio reis sy'n tyfu'n wyllt yng ngerddi hen flociau o fflatiau, am a wn i.
Post a Comment