6.9.08

taith shizuku

pwy arall sy'n dwlu ar y ffilm studio ghibli mimi-o sumaseba (whisper of the heart, cyf. kondō, 1989)? gwych o ffilm yw hi - a ffefryn mawr i mi o achos ei phortread serchus o orllewin tokyo ac o'i chymeriadau ei hunan ac o achos ei golwg optimistaidd ar bosibiliadau bywyd teuluol, cariad a chyfeillgarwch. mae celfyddyd y ffilm 'ma'n hardd iawn 'fyd - y hi yw tarddiad y llun a weli di fan'na ar y dde o dan y teitl ffrindie fi. ffilm dda iawn yn y bôn. (ac os darllenir hyn gan rai sy'n hoff o anime ac sy ddim 'di gweld y ffilm hon - wel, rhag eich cywilydd, mi wedaf!)

rwyf am ddiolchi i emma reese am hala ataf ddwy ddolen mae a wnelont â'r ffilm wych hon a pheth gwybodaeth yn ei chylch. down i'm 'di sylweddoli i ba raddau mae'r lleoedd yn y ffilm wedi'u seilio ar leoedd penodol yn tokyo. mae'r wefan hon yn rhoi map (gw. uchod) sydd i'w weld wrth orsaf drên yn y byd rial mae'r prif gymeriad shizuku yn cychwyn ar daith gerdded ohoni yn un o olygfeydd mwyaf cofiadwy'r ffilm - geill ymwelwyr iwsio'r map 'lly i ddilyn yn olion traed shizuku fel petai - tra ceir ar y wefan hon ffotos o leoedd rownd yr ardal sy'n ymddangos wedi'u hanimeiddio yn y ffilm.

gwych darganfod bod gan rywbeth lu o ffans pan fydd y peth yn ei haeddu!

5 comments:

Emma Reese said...

Rhaid bod y rhai wnaeth y ffilm nabod y lle'n dda iawn. Ac mae'r disgrifiad yn orfanwyl. Wnest ti sylwi bod tad ffrind Shizuku yn gwylio pêl fas ar y teledu yn y cefndir?

asuka said...

y tad nad yw'r ffrind yn "siarad ag ef"? ^^
na - sa' i'n cofio'r manylyn 'na. bydd rhaid ifi fynd 'nôl i ailwylio'r darn 'na heno!

Anonymous said...

Helo こんにちは:)
I'm a Japanese. I live in Osaka, Japan.I knew Cymraeg(カムライグ) with your blog for the first time. I can't understand Cymraeg. But I'm glad you are interested in Japanese movies(anime).
asuka is 'Neon Genesis Evangelion' Asuka Langley Soryu.
The title picture is 'Urusei Yatsura' Lum.
I like them, too.
Diolch ありがとう:)

asuka said...

こんにちは!
thanks for visiting - just let me make some tea for us and we can have a chat about anime (but it will need to be in english, i'm afraid...)
i'm glad you like the picture of lum! ^^

Anonymous said...

and who don't like the Ghibli studios movies, tonari no totoro, Kaze no Tani no Naushika, Mononoke hime, Sen to Chihiro no Kamikakushi, Viagra Online remake, any movie of this studio are excellent, my favorite is tonari no totoro, this movie left me a great lesson about the life.
Generic Viagra Buy Viagra.