18.10.08

byw mewn swigen

newydd fod yn darllen yn y new york times fod y tymor gwleidyddol presennol yn curo pob record yma yn u.d.a. o ran hysbysebu ar y teledu - a finnau heb weld yr un hysbyseb eto! rwy fel 'swn i'n colli rhywbeth diwylliannol o bwys drwy nad oes set deledu 'da ni!

bydd rhaid ifi aros i'r hysbysebion gael eu rhyddhau ar DVD ymhen chwe mis, fel tymhorau the wire a battlestar galactica rwy'n aros amdanynt! (^o^)

8 comments:

Emma Reese said...

Dwyt ti ddim yn colli cymaint heb weld y teledu. Dan ni ddim chwaith.

asuka said...

rhyfeddol - sa' i, ti na zoe deryn cân yn gwylio'r teledu. ac rŷn ni i gyd wrthi'n dysgu cymraeg yn america.

oes 'na ryw gysylltaid rhwng y ddwy ffaith 'ma?!

Emma Reese said...

Well gynnon ni ddysgu Cymraeg yn hytrach na gwylio teledu. Ond dw i'n siwr baswn i'n gwylio rhaglenni Cymraeg tasen nhw ar gael yn America!

Gwybedyn said...

mae'n biti, on'd yw hi, fod S4C wedi penderfynu peidio â gadael inni wylio yn y wlad hon. Oes gan unrhyw un syniad pam? Hawlfraint, wrth gwrs - ond pam iddynt newid eu meddwl? Roedd toreth o bethau da ar gael rai misoedd yn ôl.

Emma Reese said...

Mi wnes i sgwennu at BBC ar ôl peidio cael gwylio'r Eisteddfod ar y we eleni. Dwedon nhw fod y rhaglenni ar gael i'r rhai sy'n talu amdanyn nhw'n unig bellach, sef pobl Brydain.

Gwybedyn said...

Sut mae'r ddadl honno'n gweithio, tybed?

Mae'n wir, am wn i, fod cyfran o raglenni S4C yn dod o'r BBC (sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan y drwydded deledu), ond eto mae digon o gynnyrch y BBC ar gael mewn gwledydd eraill, ac mae tipyn go lew o raglenni S4C yn gynnyrch cwmniau preifat beth bynnag.

asuka said...

ond does dim modd i bobl dramor dalu am y gwasanaeth. byddwn i'n deall eu pwynt 'sai 'da ni ddewis...

Gwybedyn said...

ond dydy pobl Prydain ddim (o reidrwydd) yn talu am y wasanaeth ta beth. Gall unrhyw un sydd â chyfrifiadur wylio'r rhaglenni, p'un ai ydyn nhw wedi talu unrhyw fath o drwydded deledu ai peidio (gallen _ni_ wylio, 'sen ni'n camu i gylch wi-fi yn Llundain).

Oes modd gwneud unrhyw fath o 'pigi-bac' ar gefn rhwydwaith ym Mhrydain?