hei, t'awydd gweld ein pwmpenni ni?
wrth gwrs bod!
dyma nhw ar ôl ifi bennu cerfio nhw pnawn 'ma, sef totoro ar y chwith, kiki y witsh fach ar y dde...ac wedi eu goleuo heno 'ma...
a dyma iti'r un llun o totoro ar ôl ifi ei newid e ychydig ar y cyfrifiadur...
ŵŵŵ - dychrynllyd!
30.10.08
pwmpenni sbŵci!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
10 comments:
Yn bersonol mae'n gas gen i noson Calan Gaeaf ... ond mae'r rheini'n cwl as trôns!
oes 'na unrhywbeth sy ddim yn gas gen ti? ^_^
wi'n edrych 'mlaen at weld nos galan gaea' americanaidd go iawn heno - jest fel y mŵfis!
Campus! Lle mae Makkurokurosuke?
Www! Mae rheini'n dda iawn . Heb brynu un ni eto , ond wedi cael y trîts a'r bagiau'n barod.Mae'r arolygon yn gaddo noson wlyb ar y west coast, felly ddim yn disgwyl lot o blant draw.
Joia dy hun :)
linda, paid â becso ormod. po fwyaf o blant y gwnaiff y tywydd eu cadw draw, mwyaf o losins i chi. ^^
emma, syniad da. rwy'n rhyw gredu bod 'na un neu ddau yn byw yn ein nenlofft ni sydd cymaint â phwmpen - felly byddai pwmpen makkurokurosuke yn fwy realtistig na disgwyl llawer.
hei, 'suka - nag oes gen ti draethawd i'w sgwennu!?
cei di A+ amdano os bydd ef hanner cystal â'r gwaith cerfio!
^^
traethawd? rown i'n gobeithio cael cyflwyno cyfres o bwmpenni yn ei le.
^^ ^^
mae'r totoro yna jyst yn ffantastig!
'set ti'n gwneud a gwerthu'r rheiny bob blwyddyn, celet ti well cyflog nag unrhyw ddarlithydd!!
ŵ ... maen nhw'n wych!!
diolch, diolch ichi, bois!
>*__^<
Post a Comment