9.11.08

cyrri a kare kano

heno o'r diwedd mae cwpwl o'n ffrindiau newydd ni yn oberlin (bois yn adran 'mhriod) yn galw draw am noson anime. fi sy'n gwneud y bwyd (cyrri indiaidd gyda bara nan); diolch i anno (evangelion) am yr adloniant - ei gyfres kare kano ("his and her circumstances").

wel, y disg cyntaf ohoni o leiaf, ac wedyn falle'r trydydd - smo'r ail ddisg ar gael ar netflix o gwbwl. rhyfedd.

2 comments:

Emma Reese said...

Gobeithio cewch chi i gyd amser da. Cyrri llysiau ydy hwnna?

asuka said...

ie, saag paneer a dal poeth wnes i, yn ogystal â'r nan - cyfuniad rŷn ni'n hoff iawn ohono (er taw 'mhriod sy'n gwneud y seigiau 'ma fel arfer).
hwylus gwneud y caws ffres i fynd yn y saag paneer!