5.11.08

"eleven, legs eleven... ETHOLIAD!"

eitha' cyffrous gwylio'r etholiad ar y teledu yma neithiwr. gwnaethon ni gysylltu erial o'r diwedd a chael llun aneglur iawn ar ein set deledu ni. ('na'r erial ar y chwith. ond paid â becso, smo ni'n mynd yn wylwyr teledu - 'nôl i'r nenlofft ag e heddiw.)

a diddorol iawn oedd clywed sylwebaeth katie couric - bron bob tro iddi gyfeirio at dalaith benodol, byddai hi'n iwsio rhyw ymadrodd bachog - "ohio, the buckeye state", "kansas, ruby red" ac ati - a greodd argraff o'r etholiad cyfan yn fath o noson bingo wleidyddol.

*cwestiwn ynglŷn â'r iaith:
• ...a greodd argraff o'r etholiad cyfan yn fath o noson bingo
oes bosib iwsio'r gair "yn" fan'na mewn gwirionedd, tybed?

8 comments:

Anonymous said...

Haia Asuka. Jyst i ddweud 'mod i wedi newid i flog arall.

asuka said...

diolch am roi gwybod!

Gwybedyn said...

problem? hmmm

taset ti'n newid y gair 'argraff' yn 'llun' (sydd yr un peth, mewn gwirionedd, on'd yw ef?) fyddai dim problem... fyddai?

ond falle bod angen 'fel' gydag 'argraff' (am nad cynrychiolaeth lawn mo 'argraff' bellach, o bosibl) - hynny yw, nid 'mimesis' fel y byddai Platon yn ei ddeall.

'sgwn i...

asuka said...

diolch szczeb, wi'n gweld be ti'n weud, ac yn ei dderbyn yn llwyr.
gwna i hefyd gytuno bod hi'n anodd cael hyd i ffordd dda o fynegi beth yn union y mae a wnelo ag ef fan hyn. ee byddet ti'n disgwyl i "fel" ymwneud â mimesis rywsut yn' byddet?!

Gwybedyn said...

ys gwn i beth fyddai Kate Roberts yn 'ddweud.

Rwy' wrthi'n darllen ei Ffair Gaeaf... ar hyn o bryd, ac rwy'n cael fy synnu dro ar ôl tro gan yr iaith sy' ganddi.

ond ie - rwyt ti'n iawn... "fel" byddai Platon yn mynnu'i ddefnyddio yn achos mimesis, on'd byddai! Fallai y byddai'n well imi symud tuag at Aristoteles (neu roi'r gorau i feddwl am y meddylwyr clasurol yn llwyr, a chytuno taw am Ricoeur neu Heidegger rwy'n meddwl!).

Eto, er mor ganolog mae creadigrwydd cynrychiolaeth i Heidegger, mae'r cysyniad o 'fel' yn bwysig iawn, hefyd, on'd yw ef (deall _fel_, gweld _fel_, sef ein modd o fodoli yng nghanol y cylch hermeniwtig)?

Wn i ddim faint mae hyn yn helpu gyda'r Gymraeg, serch hynny!

asuka said...

"yn" ac "fel"... AAA!
on'd yw "yn" yn anodd yn y gymraeg?

llun o kiki yn glaf yn y gwely, ie?
ond llun o napoleon fel ymerawdwr rhufeinig...?

Gwybedyn said...

neu "llun o Napoleon yn ymerawdwr"
neu "llun o Kiki yn glaf yn ei gwely fel Napoleon yn ymerawdwr"

Mae geiriau fel fel ac yn yn fêl!

Hei - ar drywydd arall. Mi greais i 'Cwlwm Moebius' neithiwr am y tro cyntaf erioed. Mae'n fwy ffrîci na 'fel' ac 'yn' hyd yn oed (newid darn o bapur ac iddo ddwy ochr yn siâp ac iddi un ochr yn unig!). Des i ar draws gwefan yn sôn am y peth wrth imi geisio cael hyd i ryw fath o feirniadaeth ar 'Lost Highway' David Lynch - awgrymwyd fod y Moebius Knot yn fodel a allai helpu esbonio'r ffilm.

Roedd gwylio Lost Highway hefyd yn brofiad annifyr am 'mod i bellach yn gallu deall geiriau caneon "Rammstein" - maen nhw'n ych-a-fi! Roeddwn i'n arfer leicio'r grwp, cyn dysgu Almaeneg (a minnau'n meddwl yn naif taw rhyw fath o ACDC caletach oedden nhw) ond nawr... ow!

asuka said...

ti'n chwilio am feirniadaeth ar lost highway?

wel, dyma farn iti o leiaf: mae'n rwtsh! rwy'n dwlu ar twin peaks, rown i wrth 'modd â mulholland drive, a gwnes i eistedd drwy eraserhead hyd yn oed. ond lost highway? man, oh man. mae ddi fel fideoclip hir, hunanbwysig, yn dyw hi? priodol iawn mwn i fod y poseur 'na marilyn manson yn y ffilm. tasai nick cave ond ynddi hefyd, byddai'n glirach fyth sut brosiect siep yw'r cyfan!

ond ta waeth am hyn'na i gyd, ydy, mae stripiau moebius yn wych! beth am dodi llun ohono ar harvard cymraeg?