7.12.08

bwyd figanaidd

mae'r blog 'ma'n cysgu ers rhai wythnosau mae arna' i ofon (fel osaka-chan o azumanga daioh ar y chwith) - nid nad oes dim 'da fi i'w rannu, wrth gwrs. diffyg amser, 'mond diffyg amser yw'r hanes. gobeithiaf sgrifennu ychydig ar ein teithiau diweddar ni i detroit ac efrog newydd cyn bo hir, ond yn y cyfamser dyma ichi ddolen at wefan cwpwl o gogyddion gwych o figaniaid: the post punk kitchen.

dwy yn efrog newydd ŷn nhw sy 'di cyhoeddi sawl llyfr da iawn. pan own i'n tyfu, bois, roedd bwyd figanaidd fel 'sai'n ofnadwy bob amser, yn enwedig pob math o fwyd parti figanaidd fel teisennau a phhhhwdinau. ond mae pob peth rŷn ni 'di ei dreio mas o lyfrau'r rhain jest yn lyfli. dylísh. mae'r ryseitiau ar eu gwefan nhw yn gymysg braidd (dyna'r we ichi!) - ond does modd rhoi dolen at y llyfrau eu hunain, oes e? wel, dim eto.

4 comments:

Emma Reese said...

Swnio'n flasus, yn enwedig y frechdan tofu.

asuka said...

ie! ac er bod eu hieithwedd nhw'n edrych yn flinderus ar y wefan, mae'r llyfrau braidd yn ddifyr.
e.e. (wrth sôn am rostio gwahanol lysiau) "Whole Eggplant: Roast a whole eggplant in its skin? Are you mad? Mad about tender, melt-in-your-mouth eggplant, maybe." ^^

Gwybedyn said...

Mae'r bwyd yn edrych yn lyfli. Soniais wrth fy nghariad am y "patlican" cyfan wedi'i rostio a dechreuodd hi hel atgofion am wahanol ffyrdd i'w fwynhau wedi'i gymysgu gyda garlleg, hufen ac ati, er nad yw hi'n ffan arbennig o'r patlicanlar sydd ar gael yn lleol, yn anffodus. ('patlican' [heb ddot dros yr 'i'] yw'r Dwrceg am beth bynnag yw 'egg-plant' yn Gymraeg!)

asuka said...

sut "batlicaniaid" sy 'da nhw yn nhwrci 'te? (rhyw fath ffeind mae'n siwr a nhwthau'n arbenigwyr yn eu paratoi...)

"o-byjîn" yw'r gair cymraeg hyd y gwn i! ha, on' byddai 'di hala 'nhad i'n grac clywed yr un ohonon ni'r plant yn gweud "aubergine" tra own i'n tyfu - "englishisms"! trôdd e'n saith deg pwy ddiwrnod. penblwydd hapus, daddy!