9.12.08

siawt-awts!

trodd dad yn saith deg oed yn ystod yr wythnos diwetha' tra bydd mam yn dathlu pen-blwydd sydd ::peswch:: lawn mor arwyddocaol o fewn pythefnos. (^_-)

pennau hapus blwydd o benblwyddi felly i'r ddau ohonynt ill dau, f'annwyl mummy a daddy i!

7 comments:

Emma Reese said...

Dymuniadau gorau i dy rieni ar eu penblwyddi!

asuka said...

diolch iti, emma - gwna' i drosglwyddo dy ddymuniadau di!

Gwybedyn said...

peth gwael am weld dy rieni'n dathlu penblwyddi "arwyddocaol" yw'r ffaith dy fod di'n gwybod hefyd nad wyt ti mor bell ar eu holau nhw!

gobeithio i'th dad gael diwrnod i'r brenin!

Gwybedyn said...

wrth feddwl am rieni, plant, gadael cartref, ac ati... Des i ar draws y dyfyniad yma yn yr OED (sv dehiscence) eiliad yn ôl:

1860 O. W. HOLMES Elsie V. 139 A house is a large pod with a human germ or two in each of its cells or chambers; it opens by dehiscence of the front door..and projects one of its germs to Kansas, another to San Francisco.

Dim rheswm - o'n i jyst yn ei leico! Yr ymadrodd "a human germ or two" sy'n ennill y dydd imi, rwy'n credu. ^^

asuka said...

diolch, szczeb, am y dymuniadau da!
"dehiscence," ie? smo ti'n darllen lacan ar hyn o bryd, wyt ti?

Gwybedyn said...

Derrida. "La mythologie blanche".

Beth mae Lacan yn ei wneud gyda'r gair? (Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod cysylltiad yn fan'na - digon tebyg fod yr hen Siaci D. yn 'cyfeirio' yn ei ddull gyfeiriadaol arferol!).

Gwybedyn said...

aha - rwy'n gweld: "Cyfnod y drych" - goddrychedd drylliedig ac ati. Diddorol. Mae Derrida yn trafod metaffor a throsiadau mewn iaith athronyddol, ac mae fel petai rhyw ffetish gydag ef am flodau ar hyn o bryd.