14.5.09

bicis!

sdim byd fel bwydydd cartre i ddwyn gwlad ei eni i gof un sy'n byw yn bell oddi cartre, oes e? ac o ofyn i alltud o awstraliad beth mae hi (neu e) yn golli fwyaf o ran bwyd, posib iawn y clywi di'n ateb y gair ar ben y post hwn, sef... "bicis!"

bisgis awstralia! milk arrowroots, scotch fingers, milk coffees, morning coffees, honey jumbles, gingernuts, spicy fruit rolls, currant luncheons... enwau dewinol pob un ohonyn nhw, ac yn amal iawn ers symud i u.d.a. rwyf fi a 'mhriod wedi eistedd wrth y ford yn llafarganu'r swyneiriau hyn wrth ein gilydd mewn hanner breuddwyd a'r dŵr yn llifo'n rhydd o'n dannedd...

ond sdim rhaid wrth sut ddefodau mwyach - newydd gael gwerth dros gan doler o fisgis awstraliaidd drwy'r post, llond bocs y buon ni ei archebu ar y we, ac mae'n iced vovos ac orange slices i gyd yn nhŷ asuka ar hyn o bryd!

ga i fanteisio ar y sefyllfa i gyflwyno ichi'r monte carlo, ffefryn i fi, ffefryn i 'mhriod, ffefryn i tithau fydd wi'n siwr! gyda'u dwy fisgïen gnau coco a'r haenen o hufen a jam yn y canol, mae'r monte carlo yn frenin coronog ar fyd bisgedi, yn nhŷb i - ac ardderchog gyda phaned o de. iawn, mae'n amser te beth bynnag. jest gad ifi roi'r tegell ar y ffwrn ar gyfer potaid o de ceylon, cawn ni rannu cwpwl o'r danteithion yma 'da'n gilydd. cei di weld!

1 comment:

Emma Reese said...

Diddorol clywed bod na bisgedi cynhenid Awstralia. Tybed mai siocled Kiss yn cynrychioli UDA? Aeth fy merch â fo'n anrhegion i Loegr o'r blaen. Mwynha dy Fonte Carlo beth bynnag.