15.5.09

ponyo! ponyo! ponyo!

cael cyfle i weld ponyo (崖の上のポニョ) a wnes i'n ddiweddar, y ffilm newydd sbon gan miyazaki hayao. anodd gweud faint o ffefryn bydd y ffilm 'ma'n mynd yn y dyfodol ar ôl ei gweld hi unwaith yn unig, ond ar y foment sa i'n siwr ydw i di joio'r un o ffilmiau miyazaki ers kiki's delivery service (魔女の宅急便, 1989) yn fwy na hon.

lot o bethe gwych am y ffilm 'ma, ond dyma ichi un am y tro: y cymeriad lisa, mam i'r prif gymeriad. rhyfedd pa mor amal mewn storïau ffantasi i blant y bydd mam yn farw ynteu yn marw, yn dost iawn, neu absennol am ryw reswm arall. ond nid fel'na yn ponyo. yma mae'r fam yn ifanc ac yn cŵl, yn fywiog ac yn gyffrous, yng nghanol pob dim. dyna hi uwchlaw. on'd yw hi'n edrych yn alluog ac yn hwylus?

os yw ffilm miyazaki totoro yn dangos inni ddelfryd o dad ifanc, un sy'n gallu gofalu am eu plant yn gyfrifol wrth adael y lle iddyn nhw dyfu, mae ponyo yn gwneud yr un peth i famau! hwrê am mam!

8 comments:

Emma Reese said...

Mam ydy honna? Mor ifanc â'r fam yn Hunt Family!

asuka said...

ie, ond mae plentyn lisa yma i fod yn bump oed, tra bod plant hŷn y teulu hunt yn eu tridegau!

Hasu (蓮) said...

I just heard 「崖の上のポニョ」 hits theaters on August 14th 2009 in the USA.
It'll be fun for you. (^_-)☆
(⊙。⊙`彡 )з ponyo

asuka said...

i'm looking forward to seeing it in the cinema.
o(^^o) (o^^)o o(^^o) (o^^)o
i hope it does come to cleveland.

Zoe said...

Dw i wedi gweld Kiki's delivery service. Ciwt iawn. Effallai mod i'n gallu gweld y ffilm 'ma un diwrnod, ond ddaw o ddim i sinema Bloomington, yn anffodus.

Gwybedyn said...

mae rhai pobl wedi bod yn cael pen-blwyddi.

ac mae eraill wedi bod yn ymateb yn hwyr.

gobeithio i'r rhai gafodd benblwydd gael diwrnod gwych.

asuka said...

ac mae 'na rai sy ddim yn ymateb am fisoedd!
(’-’*)

Hasu (蓮) said...

How was the movie "Ponyo"?
(⊙。⊙`彡 )з
Noriko