31.5.08

'steddflog

ddydd iau rown i'n bwriadu bod yn eisteddfod yr urdd, ond treuliais i dri o ddiwrnodau yna yn y pendraw - dy' mercher, dydd iau a dy' gwener 'fyd. a chael gwych. o. amser.

gwnes i ffaelu cwrdd â ffrind rhys yn stondin prifysgol caerdydd (ddy' sadwrn roedd hi i weithio - ac o ganlyniad deil hi heb ei ffrîco mas, rhys, mae arna' i ofon), ond fe welais sawl ffrind i fi yna, oedd yn hyfryd - dwy ferch o'r ariannin y gwnes i gyrsiau haf 'da nhw yn llanbedr-pont-steffan yn 2002 a 2003, a menna, ffrind o brifysgol bangor. a bues i'n crwydro'r maes ddoe gyda 'nghyd-letywr matt a'i wejen gymraeg sali, ac yn gwylio brodyr a chwiorydd iau i'r ddau'n cystadlu. (profiad neis bod â rhywun penodol i'w gefnogi - 'mlân ysgol glan clwyd!)

gwelais i lwyth o'r prilims, a threulio oriau yn y pafiliwn yn gwylio sut gymaint o stwff amrywiol - dawnsio gwerin, cerdd dant, cyd-adrodd (!), scetsys plant ail-iaith, côr ar gôr ar gôr, yn ogystal â chwpwl o seremonïau gwobrwyo (- collon ni'r dawnsio disgo gwaetha'r modd). joiais i bron popeth. falle ifi joio'r cystadlaethau'n fwy na rhai'r eisteddfod genedlaethol, a gweud y gwir - mae'r elfen "ddiddordeb dynol" mor gryf yna rywsut, a'r plant i gyd (ar y llwyfan ac yn y gynulleidfa) mor llawn brwdfrydedd. gwir sgrechian a ddilynodd bob perfformiad.

beth arall a wnes i? prynu ambell i lyfr yn y stondinau (rwy'n edrych ymlaen at ddechrau ar nofel newydd llwyd owen, yr ergyd olaf, a awgrymwyd i fi gan menna - mae arni olwg gyffrous braidd). a chasglu ffribis wrth gwrs - ces i sawl ffribi arbennig yn stondin y cynulliad, gan gynnwys:

  1. sticer i d'atgoffa di am ddiffodd y cyfrifiadur wrth adael y stafell, er mwyn lleihau llygredd ac osgoi gwastraffu adnoddau'r byd mae'n siwr
  2. cadair blygu fach o blastig ac arni ddraig llywodraeth cynulliad cymru, sydd i fynd ar dy ddesg a ??dala dy ffôn symudol di??
^^ rwy'n chwerthin o hyd.

'na chi 'te - fy niwrnodau mas yn y 'steddfod. os bydd ifi gofio rhywbeth arall o ddiddordeb bydda i'n sicr o sgrifennu yn ei gylch, ond a chrynhoi gyts y peth, cafwyd amser top. am y tro, y bennod derfynol o britain's got talent sydd ar y gweill heno 'ma:

KATE a GIN FOR THE WIN!

6 comments:

Emma Reese said...

Da iawn ti. Falch cest ti amser gwych. Mi ges i gip ar y we. Y peth yn fy nharo i bob tro dw i'n gweld perfformiadau plant Cymry ydy pa mor ddawnus ydyn nhw.

asuka said...

cytuno'n llwyr. adloniant mor dda yw eu perfformiadau nhw, ac mae 'na lwythau ohonyn nhw fel'na.
byddet ti 'di dwlu ar y plant ysgol gynradd yn chwarae'r delyn, rwy'n siwr.

Gwybedyn said...

yn gwneud imi feddwl am nofel Robin Llywelyn, Un Diwrnod yn yr Eisteddfod (nid am unrhyw reswm penodol ar wahân i'r ueber-amlwg, ond am wn i mae'r nofel yna'n werth ei chofio ar unrhyw adeg!).

asuka said...

heb ddarllen hwnnw 'to, ond rwy'n leicio'r hyn rwy wedi ei ddarllen o'i waith e - gwna' i ychwanegu'r llyfr at y rhestr o bethau i'w prynu yma a mynd 'da fi adref!

Digitalgran said...

Dwi'n falch dy fod wedi mwynhau y steddfod, roedd yna gystadlu da iawn yno fel arfer. Mae fy gnhartref i yn Deganwy yn edrych dros y castell ac afon Conwy.

asuka said...

ardal bert iawn ti'n byw ynddi felly!
oedd, mi roedd hi'n wych cael treulio amser yn yr eisteddfod yn gwylio'r cystadlaethau i gyd - roedd y safonau'n uchel iawn ys dywedaist ti. (fyddwn i byth 'di disgwyl iddi fod mor adlonianol gwylio plant pobl eraill yn perfformio a bod yn onest!)