15.6.08

gosodiad yr angel didostur

rwy wedi darganfod bod y siop lyfrau japanaidd ar bwys y llyfrgell gyhoeddus yma yn gwerthu copïau o ffilm newydd anno hideaki evangelion: 1.0 you are (not) alone (2007) (evangerion shin gekijōban: jo) - sef y bennod gyntaf o "re-imagining" pedair rhan o'i GLASUR o'r nawdegau neon genesis evangelion (shin seiki evangerion).

mae hyn yn gyffrous. dros. ben. mae'n debyg y bydd llawer ohonoch chi'n gyfarwydd â gwaith anno hyd yn oed os na fyddwch chi 'di gweld eva na dim byd arall gan ei stiwdio e. gweithiodd anno ar nausicäa miyazaki ac y fe oedd yn gyfrifol am animeiddio'r god warrior yn un o olygfeydd gwycha'r ffilm wych yna. ond os nad wyt ti 'di gweld eva, dylet ti - am gyfres!

rown i'n disgwyl gorfod aros am flynyddoedd cyn cael gweld ei ffilm newydd yn america, er gwaetha'r ffaith iddi fod yn llwyddiant ysgubol yn japan yn ôl pob sôn - dyna ffordd y bydd pethau'n gweithio gan amlaf yntê? - ond dyna oedd e ar y silff, y dvd yn aros ifi dalu fy nhrigain o ddoleri amdano (gylp! mae 'mhriod caredig i 'di cynnig ei brynu e ifi yn anrheg ben-blwydd hwyr) a mynd â fe adre'.

ond rwy heb ei brynu e 'to. problem fach: mae'r disg yn un rhanbarth 2. dim ond problem fach yw hon, gobeithio. mae'n rhaid inni brynu chwaraeydd dvd newydd beth bynnag ac rŷn ni'n bwriadu cael un amlranbarthol tro 'ma (- ac o leia' mae japan yn wlad NTSC yn hytrach na PAL!). problem fwy: sa' i'n siwr a oes i'r peth isdeitlau saesneg neu beidio (sa' i'n deall japaneg, er y leiciwn i ei dysgu!). rhaid ffeindio mas...

a dyma ichi deitlau cyfres wreiddiol neon genesis evangelion jest achos ro'n nhw mor cŵl.

4 comments:

Anonymous said...

Pan o'n i ar ymweliad â Sbaen eleni, ces i'r cyfle i weld lot o episodau Naruto. O'n i a'r hogia yno yn cael hwyl canu i'r is-deitlau karaoke ar ddechrau a diwedd pob episod!

asuka said...

ie, 'sdim byd gwell na thipyn o caraoke anime!
("dim byd gwell"? falle bod hyn'na bach yn rhy gryf. ond mae'n lot o hwyl.)
ac rwy'n leicio'r animes sy'n cydnabod hyn drwy ddangos cymeriadau o'r rhaglen ei hunan yn perfformio'r teitlau 'ta'r credydau. tybed ydy enghreifftiau ar youtube o "excel saga" neu "mahoromatic"...? 'dewch inni weld!

Rhys Wynne said...

ydy hyn am weithio?

asuka said...

ydy! a dyna bob peth html cŵl sy'n bosib mewn sylwadau blogger, mae'n debyg. T_T