12.6.08

meddyliau cartref

rwy 'di cyrraedd metropolis efrog newydd 'nôl ar ôl dros bedwar mis ym mangor - a jest mewn pryd i ddala ton wres gyntaf yr ha'! ffiw - mae'r ceirt ar y corneli o gwmpas fan hyn yn gwerthu hufen iâ dominicaidd, a'u mango a phîn-afal ar briciau, a finnau a 'mhriod yn sugno ein diodydd leim a grenadine-a-soda i lawr fel 'sen nhw'n mynd mas o steil! (hmmm - falle bod grenadine wedi mynd mas o steil mewn gwirionedd...)

be' sy 'na i'w weud am y profiad o ddychwelyd i u.d.a.? taw hyfryd oedd gweld 'mhriod i 'to a bod 'nôl yn y ddinas fawr. ac taw trist oedd gadael cymru a ffrindiau newydd fan'na. a hefyd, fod e'n gwneud ifi feddwl o'r newydd am y cwestiwn pam rwy wrthi'n dysgu cymraeg dramor lle mae siaradwyr mor brin.

rhaid bod pob dysgwr/aig wedi gorfod ateb y cwestiwn pam dewison nhw ddysgu'r iaith yn y lle cynta', a 'sdim ateb da gyda fi i'r cwestiwn 'na erioed. ond (fel rwy 'di sôn wrth rai ohonoch chi, mae'n bosibl) rwy'n meddwl dros y cwestiwn at beth rwy'n dysgu cymraeg 'slawer dydd, y mater o gyfiawnhad fel petai. dyma rwyf fi'n ei feddwl: leiciwn i fynd yn ddigon sicr 'nghymraeg i allu addysgu'r iaith dramor, naill ai yn america 'ta yn awstralia, ac i wneud jobyn da ohono.

mae 'na bobl o gwmpas america sydd am ddysgu cymraeg waeth pa mor bring yw'r cyfleoedd i wneud hyn'na tu fas i gymru. tra o'n ni'n byw yn baltimore roedd 'na griw a fyddai'n cwrdd bob wythnos i weithio drwy lyfrau gareth king heb gymorth gan ddim siaradwyr rhugul. rwy'n siwr bod y gwaith o helpu pobol fel y rhain yn werth ei wneud, ac rwy'n siwr nad oes 'na ddigon o siaradwyr iaith gyntaf i'w wneud e. lle i fi 'lly!

hefyd - rhaid bod hi'n beth da rywsut ar gyfer diwylliant cymraeg po fwyaf o bobl sy'n dysgu cymraeg yn ail iaith dramor. falle bod modd codi ymwybyddiaeth ychydig drwy ei wneud a'i gefnogi e?

3 comments:

Emma Reese said...

Mae pawb sy'n dysgu Cymraeg yn cyfrannu at adfywio'r iaith. Ac mae'n fraint fawr i mi fod yn un ohonyn nhw.

asuka said...

cytuno'n llwyr. ydy natur cyfraniad dysgwyr tu fas i gymru yn wahanol i eiddo cymry di-gymraeg sy'n adennill eu hiaith eu hunain?

Emma Reese said...

Dw i ddim yn siwr, ond beth bynnag y natur, dan ni'n perthyn i'r un cylch o bobl sy'n dysgu'r iaith mor anhygoel.