14.10.08

'mond caffi grawnfwyd eto. hei, beth...?

'co be daethon ni ar ei draws wrth grwydro strydoedd cleveland bnawn sadwrn: caffi grawnfwyd, h.y. caffi sy'n gweini tri deg chwech o fathau gwahanol o rawnfwyd. (ie, tri deg chwech! un ar bymtheg ar hugain! deuddeunaw!)

a dewis o "toppings" ar gael 'fyd. yr unig topping rwy'n gyfarwydd â fe yw'r siwgwr ar fy nghornflêcs (er bod rhai pobl yn cael ffrwyth dros ei weetabix sbo - o gredu'r llun ar y pecyn). erioed 'di gweld sut beth.

roedd caffi pwdin reis yn little italy yn efrog newydd wrth gwrs, ond mae 'na lot o bethau ynfyd yn efrog newydd. (^o^)

6 comments:

Emma Reese said...

Post newydd ers talwm! Erioed wedi clywed am gaffi grawnfwyd. Diddorol. Ces i Weetabix efo banana yn nhyˆ Corndolly. Roedd o'n dda.

Deuddeunaw!

asuka said...

treio osgoi'r sylw i gyd rown i efallai, yn sgîl yr erthygl amdana' i yn GOLWG... (^o^)

Gwybedyn said...

ie - mefis sy' ar y bocs witabics, yntefe? mae rhai pethau od iawn yn y byd marchnata! ^^

wi'n dal yn aros i Golwg roi colofn gyson i Asuka. Dysg-flog-golofnydd gorau'r seibrfyd yn ddiau!

Suka! Suka! Suka!

asuka said...

ie, mefus rwy'n eu cofio hefyd, ond mwyar sydd ar y pecyn sy 'da ni fan hyn. mae'r pecyn yn addo "new look, same great taste!" ac y mwyar sy 'da nhw mewn golwg, mae'n debyg - 'na new look iti!

Gwybedyn said...

rhyfedd gen i fod mwyar heddiw yn blasu fel mefus ddoe! ^^

gyda llaw - un o'm hoff linellau o unrhyw gân 'werin': "seidar ddoe yn troi'n siampên" - cwis ichi: o ba gân mae'n dod, a phwy yw'r awdur?

asuka said...

>^__^<

'sdim clem 'da fi o ran y seidar 'na...