12.5.09

HOMING LASER!!!

wel, wel, mae'r hen flog annwyl yn dal i fod wedi'r cwbwl! down i'm yn siwr fyddai blogger wedi ei ddileu neu rywbeth a finnau heb sgrifennu'r un gair arno ers cyn y dolig... mae'r coed ginco yn sgwâr y dre 'di gadael i'w llwyth drycsawrus ddisgyn i'r ddaear, mae'r eira wedi dod a mynd, mae cennin pedr y gwanwyn nhwthau drosodd yn yr ardd, a dyma fi nôl o'r diwedd.

pam? wel, mae angen awch sydd ar 'nghymrâg i cymaint ag eriôd, mae'n siwr - na, mwy nag eriôd, mae'n debyg. at hynny mae 'na lwyth o anime wi moyn sgrifennu arnyn nhw! anime fel... gunbuster! (トツプをねらえ! cyf. anno, 1988). dyna noriko o gunbuster! uwchlaw - y hi sy'n gyfrifol am y bloeddiad ffantastig o ddisynnwyr yn nheitl y post. amdani, noriko! darn ar hon'na'n dod yn fuan. (^_-)

sori am ddiflannu gyda llaw, os oes ots 'da neb. ond cath rhywun yn y brifysgol "syniadau" bot hi'n hen bryd ifi ddysgu peth almaeneg, so bues i'n gwneud hyn'na am sbel. ac wedyn roedd hi'n amser crynsh ar gyfer traethawd ph.d. 'mhriod i so treuliais i amser hir yn helpu gyda hyn'na, gan wirio pob atalnod a throednodynnod. ac wedyn...
hei - wi yma nawr ocê!

wrth sôn am y cennin pedr ac ati - am wanwyn! eriôd 'di byw yng nghefn gwlad o'r blaen. eriôd 'di meddwl y byddwn i'n byw yng nghefn gwlad, a gweud y gwir, ond waw. ac nawr bod yr eira 'di mynd o ddifri a'n gardd ni'n tyfu'n wyllt, mae 'na gwningen fach frown sy'n ymweld 'da ni bob gyda'r nos i bori tu nôl i'r tŷ - wi'n disgwyl arni drwy'r ffenest wrth deipio'r union eiriau hyn. wir iti.

sdim clem 'da fi beth mae ddi wrthi'n fyta yna. dant y llew o bosib. neu wair. mae fy chwaer i sophie yn honni y bydd cwningod yn byta unrhyw beth. buon nhw'n edrych ar ôl bwni dosbarth fy nith saith oed dros nos pe ddwrnod, a bytodd hon'na fflip-fflop gŵr sophie a thamed o ddrws y cefen...

... mynte sophie.

16 comments:

Hasu (蓮) said...

noriko! ・・・I'm here. (^-^)/
I wish I could read your language.

asuka said...

こんにちは, noriko! ( ^‐^)_且
are you the same noriko in the picture?

Emma Reese said...

Croeso'n ôl i'r byd blogio, Asuka! Gwych dy weld di'n byw ac yn iach. Mae Blogiadur wedi bod yn wag braidd heb dy byst lliwgar di ers misoedd.

Rôn i'n meddwl mai meillion mae cwningod yn eu licio.

Hasu (蓮) said...

Thank you, asuka! 旦_(∩_∩ )
The title is a combination of the titles of classic tennis anime "Aim for the Ace!"(エースをねらえ!) and the 1986 film "Top Gun"(トップガン), isn't it? It's fun.
I'd like to see the anime, too.
Let's go to the DVD rental shop!
≡≡≡ヘ(*゚∇゚)ノ

asuka said...

you're running too fast! slow down! ε-(´・`)
i like the anime: the start is so ridiculous, and the end is so noble. let's watch it!
i want to see aim for the ace!(エースをねらえ!) - but it's not available in the u.s.a.
(;_・)

asuka said...

meillion ynteu? wel, mae 'na ddigon o feillion yn ein lawnt ni - digon i lu o fwnis - so mae'n debyg taw dyna fe!
(roedd rhaid ifi edrych yn y geiriadur wath down i'm yn gwbod y gair "meillion" - sa i'n gwbod lot o eiriau am blanhigion, ma arna i ofon!)

Emma Reese said...

Dwn i'm chwaith. Clywed y gân, "Meillionen" gan Big Leaves wnes i o'r blaen.

Rôn i'n arfer darllen エースをねらえ! amser maith yn ôl.

Hasu (蓮) said...

Noswaith dda, asuka!
It was so good. (o^-')b
I enjoyed it. (≧▽≦) (゚ーÅ)
The start is so ridiculous. But if you know aim for the ace!(エースをねらえ!), you would enjoy it more.
I like a parody.
You made my day.
Nos da (~o~) (- -) (o_ _)o.zZ

asuka said...

i'm glad you liked it, noriko!
(i cried at the end. did you?)

Hasu (蓮) said...

The last message from Jung Freud made me cry. o(;△;)o
However a last letter(イ) was wrong!
It was reversed! Σ(・ω・ノ)ノ!
Why?????? (*_*)
Jung Freud is Russian.
She carelessly made a mistake. (≧▽≦)
The anime had both the emotional climax and the comical climax.
I love them.
Noriko put up a poster "tonari-no totoro",didn't she? (^-^)

Gwybedyn said...

Titrwm, tatrwm, Gwen lliw'r wy,
Lliw'r meillion mwyn rwy'n curo,
Mae'r gwynt yn oer oddi ar y llyn
O flodyn y dyffryn deffro.

asuka said...

am gân hyfryd. beth am inni i gyd ei chanu e gyda'n gilydd? ♪♪

Gwybedyn said...

Wi'n ei chanu ddi yn barod! S'mo ti'n fy nghlywed i?

Mi ganaf yn uwch!

:)

asuka said...

galla i dy glywed di, chan, yn canu nerth dy gorn, ac mae'n hyfryd! ond mae pawb arall yn dawel braidd.
deffrowch, bawb!!!
(_ _)ヾ(‘ロ‘)

Gwybedyn said...

Dyma'r fersiwn sydd yn Hen Benillion (453):

Titrwm, tatrwm, Gwen lliw'r wy,
Ni alla' i'n hwy mo'r curo;
Mae'r gwynt yn oer oddi ar y llyn;
Lliw blodau'r dyffryn, deffro.
Chwyth y tân i gynnau toc, --
Mae hi'n ddrycinog heno.
Ac wrth edrych i lawr y tudalen, dyma weld y penillion gwych hyn (454):

"Fy nghariad annwyl, dyner, glws,
Tyrd i'r ffenest' neu i'r drws.
Mae gŵr ifanc dan y pared
Yn dymuno cael dy weled."

"Yn wir ni chodaf i o'm gwely
I siarad gwagedd drwy'r ffenestri.
Mae'r gwynt yn oer, a minnau'n dene,
Dowch yn gynt neu sefwch gartre."
[ddrwg gen i am bostio a dileu - yr edefyn anghywir ac yna'r botwm anghywir]

asuka said...

waw - geiriau hyfryd! mae'r sefyllfa a'r teimladau mor glasurol a'r geiriau mor syml.