20.5.09

ar ddihun

waeth pa mor hir y bydda i 'di bod wrthi'n dysgu, mae'r cwestiynau'n para - cwestiynau digon sylfaenol hefyd - rhai sy'n 'nghadw i ar ddihun liw nos pan ddylwn i fod yn breuddwydio 'mreuddwydion cymraeg anodd. cwestiynau fel: "ffordd mae cyfieithu'r cysyllteiriau saesneg "when" a "though" yn y gymraeg."

nawr wi'n gwybod be ti'n feddwl: mae asuka ni 'di cael clatsien i'r pen, ac wedi colli ei niwrons pan ac er. gad ifi egluro beth yn rhagor. nid y defnydd arferol ar "when" a "though" fel cysyllteiriau isradd sy 'da fi mewn golwg yma, ond defnydd arall lle mae'r geiriau 'ma fel 'sen nhw'n gysyllteiriau cydradd.
h.y., nid
• When I was sitting typing, Shinji bit me.
ond
• I was sitting there typing, when up jumped Shinji and bit my arm.

ac nid
• Though he gets plenty of attention he always wants more.
ond
• He gets plenty of attention - though he always wants more!

falle nad yr iaith "isradd/cydradd" mo'r un briodol yma, ond mae 'na wahaniaeth beth bynnag rwyt ti am ei alw e. yn yr ail "frawddeg when" uwchlaw, mae "when" yn gyfwerth ag "a dyna" neu "ac wedyn", neu jest "a". yn yr ail "frawddeg though" ar y llaw arall, "ond" mae "though" yn gyfleu mewn gwirionedd, ynteu? so eniwê dyma fi'n gofyn i fy hunan ydy pan ac er mor hapus yn gwneud y ddwy swydd yn y gymraeg sydd i "when" a "though" yn saesneg? fel arall, os taw "a" yw'r ystyr, fyddai'n well iwsio "a" yn hytrach na "pan", ac os "ond", "ond" yn lle "er"?

(ffaelu ffeindio'r ateb yn 'ngramadegau i - 'na syrpréis iti. ond alla i'm peidio meddwl na ddylwn i fod yn edrych mewn gramadeg o gwbwl a'r cwestiwn yn un mor sylfaenol. swn i'n talu rhagor o sylw wrth ddarllen, fyddai dim rhaid wrth sut adnoddau eilradd mae'n debyg...)
( ̄へ ̄)

7 comments:

Emma Reese said...

Gad i mi drio.
"I was sitting there typing, when up jumped Shinji and bit my arm."
Roeddwn i'n eistedd yno'n teipio. Dyna Shinji'n neidio i fyny a brathu fy mraich.
"He gets plenty of attention - though he always wants more!"
Mae o'n cael digonedd o sylw ond mae o eisiau mwy.

Gobeithio y bydd szczeb yn bwrw goleuni ar y peth ma. Gobeithio hefyd bod Shinji heb adael olion dannedd ar dy fraich!

Gwybedyn said...

ie - "a dyma / a dyma Shinji..." neu "ac yna co Shinji..." etc.

mae'r hen 'Suk yn llygaid ei le (ac Emma hefyd), am a wela' i. Dyna wahaniaethau cynnil mewn idiom mae'n drueni nad yw'r gramadegau'n delio gyda nhw (efallai taw nodweddion y Saesneg, yn rhagor na'r Gymraeg sydd dan sylw gyda ni fan hyn - tybed a fyddai'r cwestiwn yma'n codi wrth gyfieithu o iaith arall). Mae'r "when" yn hyfryd, on'd yw ef!? Sgwn i sawl un Saesneg ei iaith fyddai'n iwsio 'when' fel hyn - on'd yw e'n perthyn i ieithwedd ac idiom eithaf penodol?

Emma Reese said...

Faset ti'n ddweud "a dyna Shinji" ? Beth ydy'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw?

asuka said...

mae'r "when" 'na yn eitha neis!

wrth feddwl am y cofnod 'ma ar gyfieithu, rown i'n gweld rhyw gysylltiad rhwng "er" a "pan" jest fel dau enghraifft lle mae temtasiwn o bosib i drosglwyddo defnydd geiriau saesneg yn y gymraeg.

ocê, falle taw dim ond fi sy'n teimlo temtasiwn i iwsio "pan" fel 'na! - ond mae'n amlwg bod "er" yn dod i gael ei roi ble bynnag y byddet ti'n iwsio "though" yn saesneg, yn lle defnyddio dewisiadau eraill fel "ond" a "serch hynny".

so a finnau'n siarad saesneg yn iaith gyntaf ac yn teimlo'r temptasiwn i ddisodli defnyddiau saesneg mor gryf â neb, dechrau meddwl am y cyfyngiadau sydd i'r gyfatebiaeth rhwng "pan" a "when" ac "er" a "though"oedd 'mwriad i.

(mae 'da fi ryw syniad gyda llaw bod ffangeg yn iwsio "quand" mewn ffordd debyg i'r "when" saesneg 'na, sef yr un sy'n gweud "a dyma" ond sa i'n hollol siwr...)

asuka said...

emma, mae'n debyg bod modd iwsio "dyma" a "dyna" fel'na.

Gwybedyn said...

sori - gwall teipio gen i. "a dyma / a dyna Shinji..." oedd i fod yn y sylwad o'r blaen.

Digitalgran said...

Dyma sy'n gwneud y Gymraeg yn anodd, mae cymaint o wahanol ffyrdd.

I was sitting there typing. when...
Dyma fuaswn i'n ddweud-
'Roeddwn yn eistedd yn teipio pan neidiodd Shinji a brathu fy mraich. Mae'n cael digon o sylw, ond mae pob amser eisiau mwy.